Ben Cabango a Rabbi Matondo yn derbyn negeseuon hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i chwaraewyr Cymru Ben Cabango a Rabbi Matondo gael eu cam-drin yn hiliol ar gyfryngau cymdeithasol.
Derbyniodd Cabango a Matondo, sydd ill dau yn 20, negeseuon hiliol ar Instagram ar ôl buddugoliaeth Cymru 1-0 yn erbyn Mecsico nos Sadwrn.
Mae Matondo wedi beirniadu Instagram, tra bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud ei bod yn "ffieiddio gan y cam-drin hiliol".
Dywed Facebook, sy'n berchen ar Instagram, ei fod wedi dileu'r cyfrifon a anfonodd y negeseuon yn barhaol ac wedi "ymrwymo i wneud mwy".
Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn "ymchwilio i darddiad y negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol oedd â chymhelliant hiliol" ac a gafodd eu hanelu at Cabango a Matondo.
'Y broblem yn fwy na ni'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Facebook: "Nid ydym am gael cam-driniaeth hiliol ar Instagram ac rydym wedi dileu'r cyfrifon a anfonodd y negeseuon hyn at Ben Cabango a Rabbi Matondo y penwythnos hwn.
"Rydyn ni wedi creu meddalwedd sy'n golygu nad oes rhaid i ffigurau cyhoeddus fyth dderbyn negeseuon uniongyrchol [DMs] gan bobl nad ydyn nhw'n eu dilyn a gwnaethom gyhoeddi yn ddiweddar y byddwn yn cymryd camau llymach pan ddown yn ymwybodol o bobl yn torri ein rheolau mewn DMs .
"Mae'r gwaith hwn yn parhau ac rydym wedi ymrwymo i wneud mwy. Rydym hefyd yn gwybod bod y problemau hyn yn fwy na ni, felly rydym yn gweithio gyda'r diwydiant, y llywodraeth ac eraill i yrru newid cymdeithasol ar y cyd trwy weithredu ag addysg."
Dywedodd Cymdeithas Bel-Droed Cymru fod "hiliaeth a phob math o ymddygiad gwahaniaethol yn gwbl annerbyniol".
"Mae CBDC a Heddlu De Cymru am sicrhau bod y math hwn o ymddygiad ffiaidd yn cael ei adrodd iddyn nhw a'i ymchwilio," ychwanegodd datganiad.
"Mae CBDC yn ymuno â chymdeithasau a chlybiau cenedlaethol eraill i annog llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac awdurdodau rheoleiddio i gymryd camau cryfach, mwy effeithiol a brys yn erbyn yr ymddygiad enbyd hwn."
Cwestiynu 'blaenoriaethau' Instagram
Defnyddiodd Matondo, sydd ar fenthyg i Stoke City gan glwb Almaenig Schalke, ei dudalen Twitter i dynnu sylw at y cam-drin a gafodd.
"Ac mae'n parhau ... wythnos arall o Instagram yn gwneud dim byd o gwbl am gam-drin hiliol," ysgrifennodd ar Twitter.
"Er hynny, bydd fy Instagram yn cael ei dynnu i lawr os byddaf yn postio unrhyw glipiau o gemau ... blaenoriaethau."
Daw'r newyddion diweddaraf wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio i gamdriniaeth hiliol tuag at un o chwaraewyr Clwb Pêl-droed Abertawe.
Fe wnaeth chwaraewr canol cae yr Elyrch, Yan Dhanda, sydd â chefndir Asiaidd, dderbyn negeseuon ar wefannau cymdeithasol yn dilyn colled ei dîm i Manchester City yng Nghwpan yr FA ym mis Chwefror.
Ac wedi'r golled yn erbyn Ffrainc ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru feirniadu'r rhai sydd wedi bod yn rhoi sylwadau anffafriol am chwaraewyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd y negeseuon wedi'u targedu at Liam Williams a Taulupe Faletau - a gafodd ei eni yn Tonga - wedi i'r ddau gael eu cosbi am droseddu ar ddiwedd y gêm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021