'Pandemig wedi gwaethygu unigrwydd pobl ifanc LGBT+'
- Cyhoeddwyd
Gall ysgolion a theuluoedd wneud mwy i ddelio ag unigrwydd pobl ifanc LGBT (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws) yn ystod y pandemig, medd elusen.
Mae arolwg o mwy na 1,100 o bobl LGBT gan Just Like Us yn awgrymu bod cyfran uwch o bobl yng Nghymru yn teimlo'n fwy unig nag yn unman arall yn y DU.
Pobl ifanc LGBT du, sy'n gymwys am ginio ysgol am ddim a/neu sydd ag anabledd sy'n dioddef waethaf.
Dywed y prif weithredwr, Dominic Arnall, bod angen i bobl yn eu harddegau gael "gwybod eu bod yn cael eu derbyn" gan y rhai sydd mewn awdurdod.
Dywed Llywodraeth Cymru bod ysgolion wedi cael canllawiau sy'n cydnabod bod "rhai pobl ifanc yn fwy tebygol o angen cefnogaeth lles - gan gynnwys rhai sy'n perthyn i gymuned LGBT".
60% yn unig
Dywed Mr Arnall fod pobl ifanc o'r gymuned LGBT yn troi at bobl y tu allan i'w teulu am gymorth a bod hynny wedi bod yn anodd yn ystod cyfnodau clo.
Mae'n dweud ei bod yn ddyletswydd felly ar ysgolion i gynnig rhwydweithiau cefnogaeth.
"Rydyn ni'n gweithio gydag ysgolion sy'n gwneud gwaith gwych i gynnwys pobl LGBT+ ond dydyn ni ddim wedi cyrraedd lle 'dan ni am fod eto.
"Efallai bod hi'n ymddangos nad yw ots os yw rhywun yn LGBT+ mwyach ond mae'r data yn dangos ei fod yn fater o bwys.
"Rydym yn gofyn i ysgolion roi cefnogaeth - cefnogaeth a fyddai wedi cael ei roi gan ffrindiau.
"Rydym yn gwybod bod llawer o bobl ifanc LGBT+ yn rhannu profiad gydag athrawon yn gyntaf cyn rhieni - ac mae ysgolion bellach yn fwy allweddol wrth i bobl ifanc beidio cymdeithasu."
Fe wnaeth yr elusen holi 2,934 o ddisgyblion ysgol uwchradd, gan gynnwys 1,140 o bobl ifanc LGBT+, rhwng 11 a 18 oed, mewn 375 o ysgolion a cholegau ar draws y DU gan gynnwys 26 yng Nghymru.
Fe wnaeth yr arolwg ganfod bod 60% o bobl ifanc LGBT yng Nghymru yn teimlo'n unig ac wedi'u gwahanu oddi wrth y bobl y maent agosaf iddynt o ddydd i ddydd - 51% oedd y canran yn Lloegr, 56% yn Yr Alban a 59% yng Ngogledd Iwerddon.
26% o bobl ifanc Cymru sydd ddim yn perthyn i grŵp LGBT+ oedd yn teimlo'r un fath.
O'r rhai atebodd yr arolwg, dywedodd 80% o bobl ifanc LGBT+ yng Nghymru bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers dechrau'r pandemig.
'Trawsnewid yn ystod y pandemig'
Un sy'n deall yn iawn pam bod cyfnod y pandemig wedi bod yn anodd i bobl ifanc LGBT yng Nghymru yw Ben Gamble, sy'n 22 oed ac wedi bod yn trawsnewid yn ystod y cyfnod clo.
Mae'n llysgennad i'r elusen ac wedi bod yn siarad â phobl ifanc mewn ysgolion gydol y pandemig.
"Mae peidio cael mynegi eich hunaniaeth mewn amgylchedd gymdeithasol yn anodd ac yn gallu bod yn brofiad unig," meddai.
"Fel person LGBT+, dwi wedi cael profiad o hynna. Yn ystod y cyfnod yma rwy'n mynd drwy gyfnod o drawsnewid - rhywbeth chi'n 'neud mewn cylch cymdeithasol - mae bod heb y profiad hwnnw yn unig iawn.
"Mae nifer o bobl ifanc wedi cael amser [yn y cyfnod clo] i archwilio eu hunaniaeth rhywedd ac mae gwneud hynny heb gael gofod neu ddim ond ar-lein yn brofiad afreal - mae hynny wedi ychwanegu at broblemau iechyd meddwl yn y cyfnod yma."
Mae Ben yn byw ym Mhontypridd ac mae'n credu bod unigrwydd pobl LGBT yn fwy amlwg mewn ardaloedd gwledig.
Dywedodd: "Fe ges i fy magu yn Llundain ac fe symudais i Gymru gan ganfod fod nifer o'm ffrindiau â theuluoedd oedd yn llai parod i'w derbyn yng Nghymru.
"O fod yng Nghymru mewn ardal mwy gwledig na Chaerdydd, mae rhywun yn gallu teimlo'n unig weithiau.
"Yn aml mae pobl LGBT yn teimlo wedi'u hynysu, hyd yn oed cyn y pandemig ond nawr mae'r unigrwydd yn fwy amlwg."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw bywyd mewn cyfnodau clo wedi bod yn hawdd a bod rhai wedi dioddef yn fwy na'i gilydd ond bod ysgolion wedi bod ar agor i "gefnogi disgyblion bregus".
"Rydym yn gwybod bod diwylliant cynhwysol yn ganolog i addysg rhai ysgolion ac rydym yn ceisio sicrhau bod pob athro yn datblygu sgiliau ymaferol er mwyn sefydlu amgylchedd dysgu sy'n cynnig gofal o ansawdd da.
"Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno canllawiau i bob ysgol fel eu bod yn sicrhau lles disgyblion. Mae'r canllaw yn nodi bod rhai angen mwy o gymorth na'i gilydd gan gynnwys pobl ifanc LGBT."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2021