Ail ddynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae ail berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mangor yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Seat Leon glas a Honda Civic coch ar yr A4087 rhwng archfarchnad Tesco a chylchdro'r Faenol nos Fawrth.
Fe gafodd dynes 32 oed oedd yn teithio yn sedd flaen yr Honda - Gemma Adran - ei chyhoeddi yn farw yn y fan a'r lle.
Cafodd dyn oedd yn gyrru'r Honda a dynes 25 oed oedd yn gyrru'r Seat eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, cyn cael eu symud i ysbyty yn Stoke.
Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi cadarnhau bod y ddynes 25 oed wedi marw hefyd ddydd Iau. Dyw'r heddlu heb gyhoeddi ei henw hi eto.
Mae'r dyn oedd yn gyrru'r Honda yn parhau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty yn Stoke.
Roedd Ms Adran, oedd yn wreiddiol o Ynysoedd y Ffilipinau, yn byw yn ardal Bangor ac yn gweithio fel nyrs mewn cartref gofal ym Mhorthmadog.
Dywedodd ei theulu: "Roedd Gemma yn ferch roedden ni'n ei charu, a byddwn yn ei cholli yn fawr.
"Roedd hi'n garedig ac yn annwyl ac roedd ei gwên wastad yn codi ein hwyliau."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r gwrthdrawiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2021