Streic wythnos CPD Abertawe dros gamdriniaeth ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Arwydd CPD AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd holl staff a chwaraewyr Clwb Pêl-droed Abertawe yn ymatal rhag cyhoeddi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol am wythnos fel rhan o safiad yn erbyn sylwadau hiliol a sarhaus ar-lein.

Dros y penwythnos dywedodd y clwb eu bod "unwaith eto'n tristáu ac yn dychryn" wedi i negeseuon hiliol gael eu danfon at yr ymosodwr Jamal Lowe.

Lowe oedd y trydydd chwaraewr o'r clwb i dderbyn negeseuon o'r fath o fewn saith wythnos.

Mae'r clwb wedi danfon llythyr ar brif weithredwyr Twitter a Facebook, Jack Dorsey a Mark Zuckerberg yn galw am weithredu llymach yn erbyn camdriniaeth ar eu platfformau.

Dywedodd y clwb bod y penderfyniad o ganlyniad i drafodaethau rhwng uwch swyddogion staff, chwaraewyr a rheolwyr.

Bydd pawb sydd ynghlwm â'r clwb yn ymatal rhag cyhoeddi unrhyw beth ar Facebook, Twitter, Instagram, LinkedIn, Snapchat, YouTube a TikTok am saith diwrnod o 17:00 ddydd Iau.

Mae hynny'n cynnwys:

  • holl aelodau'r tîm cyntaf;

  • chwaraewyr proffesiynol dan-23 a dan-19 academi'r clwb;

  • tîm merched Abertawe;

  • Ymddiriedolaeth Gymunedol y clwb;

  • uwch swyddogion; a

  • sianeli swyddogol yr Elyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ond fe fydd y clwb yn parhau i gyhoeddi'r newyddion diweddaraf ar ei wefan swyddogol nes daw'r boicot i ben am 17:00 ddydd Iau 15 Ebrill.

Fe fydd yr Elyrch yn chwarae ddwywaith yn ystod y boicot saith diwrnod - yn erbyn Millwall yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn, a gêm oddi cartref yn Sheffield Wednesday nos Fawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb wedi diolch eu noddwyr a Chynghrair Pêl-droed Lloegr am eu cefnogaeth i'w penderfyniad

"Fel clwb pêl-droed, rydym wedi gweld sawl un o'n chwaraewyr yn destun camdriniaeth ffiaidd yn y saith wythnos diwethaf yn unig," medd datganiad y clwb.

"Rydym yn teimlo ei fod yn gywir i sefyll yn erbyn ymddygiad sy'n aflwydd o fewn ein camp, ac o fewn cymdeithas yn gyffredinol.

"Byddwn wastad yn ddiwyro yn ein cefnogaeth i'n chwaraewyr, staff, cefnogwyr a'r gymuned rydym yn eu cynrychioli gyda balchder, ac rydym yn unedig fel clwb ar y mater yma.

"Rydym hefyd eisiau sefyll gyda chwaraewyr clybiau eraill sydd wedi gorfod dioddef anffafriaeth erchyll ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Fel clwb, rydym hefyd yn boenus o ymwybodol sut gall y cyfryngau cymdeithasol effeithio ar iechyd meddwl chwaraewyr a staff, ac rydym yn gobeithio y bydd ein safiad cryf yn amlygu effeithiau ehangach camdriniaeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Julian Winter: "Rhaid i rywbeth newid yn fuan"

Yn y llythyr at Jack Dorsey a Mark Zuckerberg, mae prif weithredwr Abertawe, Julian Winter yn galw ar gwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol i gyflwyno "plismona llymach a chosbau i'r rhai sy'n euog o'r gamdriniaeth ofnadwy a llwfr sydd, yn anffodus, wedi dod yn llawer rhy gyffredin".

Ychwanegodd: "Rhaid i rywbeth newid yn fuan, a byddwn... yn croesawu unrhyw gefnogaeth gan glybiau eraill, chwaraewyr, cefnogwyr a swyddogion gweithredol wrth i ni oll barhau i gydweithio yn y frwydr arbennig yma."

'Hollol annerbyniol'

Dywedodd capten Abertawe, Matt Grimes: "Fel grŵp clos ac amrywiol o chwaraewyr, mae hyn yn rhywbeth rydym yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch.

"Mae tri aelod o'n carfan wedi eu sarhau'n hiliol yn yr wythnosau diwethaf, ac fel carfan a chlwb, roedden ni eisiau gwneud y safiad yma...

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae sylwadau ffiaidd i'w gweld yn wythnosol, medd capten yr Elyrch, Matth Grimes

"Mae'n syfrdanol ein bod yn dal yn trafod hiliaeth a chamdriniaeth o'r fath. Rydym yn boenus ymwybodol o'r pwysau o fewn pêl-droed ar y lefel yma, ond ni ddylai tanbrisio sut gall y fath lefelau o gamdriniaeth effeithio ar rywun."

Er agweddau positif y cyfryngau cymdeithasol, dywed Grimes bod "y gamdriniaeth ffiaidd rydym yn ei weld yn ddyddiol ac wythnosol yn hollol annerbyniol" a'u bod yn gobeithio y bydd cefnogaeth i safiad y clwb.

"Rydym fel teulu a byddwn wastad yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'n gilydd, boed ar y cae neu'n helpu brwydro yn erbyn anghyfiawnder oddi arno."