Canolfan Mileniwm: 'Angen penderfyniad ar basport Covid'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru ddod i benderfyniad ar gyflwyno pasbortau Covid ar frys, medd pennaeth Canolfan Mileniwm Cymru.
Mae Cyfarwyddwr Artistig Canolfan y Mileniwm, Graeme Farrow, wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai'n croesawu pasbortau Covid petai hynny'n golygu y byddai'r ganolfan yn gallu ailagor.
Ond dywed fod ganddo bryderon y byddan nhw, o bosib, yn creu system dwy haen.
Daw ei sylwadau wrth i drefnwyr digwyddiadau ddweud wrth BBC Cymru bod angen mwy o eglurder ar sut mae modd iddyn nhw ailagor.
Dywed Mr Farrow bod sefydliadau fel yr un y mae ef yn gyfarwyddwr arno angen mwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru ar logisteg ailagor a pha fesurau sydd angen eu cyflwyno.
Caeodd Canolfan y Mileniwm ei drysau ar 17 Mawrth yn sgil y rheolau ar bellhau cymdeithasol ac ym Mehefin nodwyd y byddai'n wynebu colledion o £20m mewn incwm.
'Lot o bethau i feddwl amdano'
Wrth ymateb dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Ni'n dal i siarad gyda llywodraethau yn y Deyrnas Unedig am y pethau ymarferol, mae lot o bethau i feddwl amdano, dyn ni ddim eisiau gweld rhai pobl sydd ddim yn gallu gwneud pethau achos dydyn nhw ddim yn gallu cael y pasports ni'n siarad amdano.
"Os da ni yn gallu gweithio da'n gilydd, ffindio'r atebion i'r problemau sy'n wynebu ni ar y llwybr i'r pasports, wel allwn ni feddwl am sut allwn ni ddefnyddio'r pethau yma yng Nghymru.
"Ond mae ffordd eitha hir i fynd cyn ni'n gallu bod yn hyderus bydd yr atebion yna 'da ni."
Barn y gwrthbleidiau
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig bod trafodaethau ar gyflwyno dogfennau ar hyn o bryd yn ddianghenraid gan fod adolygiad yn cael ei gynnal ar lefel Brydeinig - adolygiad sy'n ystyried nifer o faterion gan gynnwys goblygiadau cyfartaledd, moesegol, preifatrwydd, cyfreithiol a gweithredol.
"Dylai gweinidogion ym Mae Caerdydd ganolbwyntio ar ddosbarthu'r brechlyn, agor y diwydiant lletygarwch a champfeydd yn gynt ac ymestyn y gefnogaeth i fusnesau sydd wedi dioddef wrth i'r Blaid Lafur beidio gwireddu ymrwymiadau blaenorol."
Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig dywedodd Jane Dodds: "Ry'n ni'n parhau i wrthwynebu'r cynlluniau. Byddant yn rhannu cymdeithas ac yn creu gwahaniaethau - fyddan nhw ddim yn gweithio ac maent yn gul.
"Mae'n golygu mai dim ond y rhai dros 50 a fyddai'n cael mynd i siop neu fwyty pan fyddant yn ailagor a byddai unigolion yn ei hugeiniau a'u tridegau methu mynd i lefydd am fisoedd nes eu bod yn cael cynnig brechlyn.
"Fel plaid sy'n parchu rhyddid a hawliau dynol ry'n yn falch ein bod wedi gwrthwynebu cyflwyno cardiau adnabod yn y DU ac ry'n yn gwrthwynebu pasbortau brechlyn."
Mewn datganiad dywedodd Plaid Cymru: "Mae manteision posib mewn cyflwyno cynllun tystysgrif brechu ar gyfer teithio rhyngwladol er mwyn cael dull cyffredin dros ffiniau, ond mae cynllun domestig yn gofyn nifer o gwestiynau moesegol ac ymarferol.
"Mae rhai grwpiau penodol sy'n methu cael eu brechu am resymau meddygol, ac a fyddai'n cael eu heithrio o gynllun o'r fath. Gallai fod risg o ymyleiddio'r grwpiau hynny ymhellach a chadarnhau rhaniadau yn ein cymdeithas.
"Ni all Plaid Cymru gefnogi cyflwyno tystysgrifau brechu at ddefnydd domestig tan y bydd y pryderon yma'n cael eu hateb gan Lywodraeth Cymru a thair llywodraeth arall y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020