Y celfyddydau 'ar eu gliniau' oherwydd Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Canolfan y Mileniwm CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llai na 20% o incwm rhai canolfannau, fel Canolfan y Mileniwm, yn dod o'r pwrs cyhoeddus

Mae'r diwydiant celfyddydau 'ar ei liniau' gyda rhai cwmniau'n colli cymaint a £1.4m yr wythnos, yn ôl pennaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Rhybuddiodd y prif weithredwr Nick Capaldi y gallai rhywle fel Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, er enghraifft, golli tua £20m yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Tra'n siarad â phwyllgor diwylliant y Senedd, dywedodd Mr Capaldi y byddai'r diwydiant angen cefnogaeth arbennig yn y dyfodol os oedd am oroesi.

Llif arian oedd y broblem fawr, a'r busnesau oedd yn dibynnu leiaf ar grantiau oedd yn dioddef fwyaf, meddai.

"Mae llai na 20% o arian sefydliadau fel Chapter yng Nghaerdydd, Galeri yng Nghaernarfon a Chanolfan y Mileniwm, yn dod o ffynonellau cyhoeddus," meddai.

Dyfodol yn creu consyrn

Dywedodd Gwyn Roberts, pennaeth Galeri yng Nghaernarfon y gallai'r cyfnod ar ôl codi cyfyngiadau Covid-19 fod hyd yn oed yn waeth i gwmniau o'r fath.

"Rydym yn cael tua 18% o'n harian mewn grantiau gan y Cyngor Celfyddydau a Chyngor Gwynedd, ac mae'r gweddill yn arian yr ydym yn ei greu'n fasnachol yma yn Galeri, drwy'r bar, a drwy werthu tocynnau ac yn y blaen, a hwnna sydd wedi cael ei effeithio gan y pandemig yma.

"Mae'n gyfnod heriol. Mae'n boenus ac yn creu consyrn am ddyfodol y cwmni.

"A deud y gwir, dwi'n meddwl y bydd y cyfnod ar ôl codi'r cyfyngiadau, pryd bynnag fydd hynny, hyd yn oed yn fwy anodd os rhywbeth.

"Does neb yn gwybod sut siâp fydd arnon ni o ran arian a staffio bryd hynny, na sut fydd pobl yn ymddwyn ar ôl y pandemig o ran mynd allan ac ati, a beth fydd y cyfyngiadau fydd yn dal mewn grym. Mae'n mynd i fod yn gyfnod ansicr iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfannau fel Galeri Caernarfon wedi gorfod cau oherwydd y pandemig

Tra'n siarad efo pwyllgor diwylliant y Senedd trwy gyswllt fideo, dywedodd Nick Capaldi fod cynllun ffyrlo'r llywodraeth wedi bod yn achubiaeth i nifer fawr o sefydliadau, ond roedd yn bryderus am ddyfodol rhai busnesau pe byddai'r cynllun yn dod i ben.

Roedd un rhan o dair o'r cwmniau ar lyfrau'r Cyngor Celfyddydau yn dibynnu'n llwyr ar y gefnogaeth honno, meddai.

Nid oedd y rhan fwyaf o sefydliadau, yn enwedig yn y celfyddydau perfformio, yn rhagweld bod yn ôl mewn busnes cyn y Pasg flwyddyn nesaf, meddai Mr Capaldi.

"Mae'r agwedd hynod bwysig hon o fywyd economaidd a diwylliannol Cymru ar ei liniau, a hwn fydd y dwytha i ddod allan o'r cyfyngiadau.

"Mae'n mynd i fod angen cefnogaeth a meithrin gofalus os yw am oroesi yn y tymor hir.

"Rydym yn dal ein tir yng Nghymru, ac mae'r diolch am hynny yn bennaf i'r gefnogaeth a chydweithrediad yr ydym wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru i'n helpu i gau'r bylchau lle nad oedd llywodraeth y DU yn gallu helpu, ond rydym yn dal ein gafael gerfydd blaenau'n bysedd."