Poster etholiadol yn 'adlais' o slogan hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae poster etholiadol gan ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad y Senedd wedi cael ei gymharu gyda slogan hiliol o ymgyrch etholiadol o'r 1960au.
Mae poster ymgyrch Carrie Harper, ymgeisydd y blaid yn Wrecsam yn dweud: "Don't want a Tory for a neighbour? Vote Plaid Cymru, not Labour."
Dywedodd y Blaid Lafur Gymreig ei fod yn "neges wleidyddol wedi'i hysbrydoli gan yr hiliaeth yn Smethwick" - cyfeiriad at slogan y Torïaid yn y sedd honno yng ngorllewin canolbarth Lloegr, yn etholiad cyffredinol 1964.
Dywedodd Ms Harper ei bod yn edifar iawn ganddi bod yr "iaith a ddefnyddiwyd wedi tramgwyddo'n anfwriadol... ac nid dyna oedd y bwriad o gwbl".
Lleoliad y poster
Mewn datganiad dywedodd Ms Harper, sy'n aelod o Gyngor Sir Wrecsam, bod yr hysbyseb wedi cael ei dynnu i lawr, ac eglurodd ei bod wedi cynnwys y gair "neighbour" er mwyn cyfeirio at y ffaith bod lleoliad y poster y drws nesaf i swyddfa AS Ceidwadol Wrecsam, Sarah Atherton.
"Dwi eisiau canolbwyntio ar ymgyrch bositif wedi'i hanelu at ddanfon gwir newid i'r gymuned lle ges i fy magu a lle dwi'n byw," meddai.
Mewn sylw ar Twitter dywedodd Llafur Cymru "Un ai mae Plaid Cymru'n naïf a ddim yn gwybod sut mae hyn yn swnio neu nid oes ots ganddyn nhw.
"Dylai addasiadau o sloganau Smethwick 1964 aros yn y gorffennol."
'Slogan ofnadwy'
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae hyn yn sarhad ar dros hanner miliwn o bobl a bleidleisiodd dros y Ceidwadwyr Cymreig yn 2019.
"Os yw pobl Wrecsam am weld newid wedi 22 mlynedd o lywodraeth Lafur yng Nghymru, ac Aelod o'r Senedd parchus a gweithgar dylent bleidleisio i Jeremy Kent."
Dywedodd Tim Sly, ymgeisydd y Rhyddfrydwyr Democrataidd: "Mae sloganau fel hyn yn ofnadwy, yn rhwygo, ac nid oes lle iddynt mewn gwleidyddiaeth a dylai'r rhai sy'n gyfrifol am ysgrifennu a rhannu'r slogan hon fod â chywilydd.
"Mae angen gofyn cwestiynau difrifol am farn y rhai a ddewisodd y slogan hwn a'u haddasrwydd i wasanaethu."
Ymgeiswyr sedd Wrecsam:
Plaid Diddymu'r Cynulliad Cymreig - Paul Ashton
Llafur - Lesley Griffiths
Plaid Cymru - Carrie Harper
Reform UK - Ian Berkeley-Hurst
Ceidwadwyr - Jeremy Kent
Gwlad - Aaron Norton
Y Blaid Werdd - Duncan Rees
UKIP- Sebastian Ross
Rhyddfrydwyr Democrataidd - Tim Sly