'Llais pobl ifanc yn bwysig' ar newid hinsawdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid CymruFfynhonnell y llun, Shenona
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru eisiau "cynyddu llais pobl ifanc" yn yr etholiad

Mae pobl ifanc sy'n ymgyrchu dros weithredu ar newid hinsawdd yn galw ar eu cyfoedion i bleidleisio "er mwyn cynyddu llais pobl ifanc".

Mae dau aelod o grŵp Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru wedi rhybuddio, os nad ydy gwleidyddion yn gwrando ar bleidleiswyr ifanc, y "gallan nhw golli eu swyddi".

Ychwanegon nhw y byddai hefyd yn helpu i atal pobl ifanc rhag cael eu gweld fel "plentynnaidd neu ddim mor wybodus".

Ym mis Mai bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiad y Senedd am y tro cyntaf.

Dywedodd Shenona, 17 o Fangor, a Poppy, 16 o Gasnewydd, bod effaith ymgyrchwyr fel Greta Thunberg wedi tanio brwdfrydedd mwy o bobl ifanc i ymgyrchu er mwyn achub yr amgylchedd.

Ychwanegon nhw fod y pwnc nawr ar agenda arweinwyr ledled y byd, a bod yn rhaid iddyn nhw wrando ar bleidleiswyr ifanc bellach.

Ffynhonnell y llun, Shenona
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shenona bod angen i bobl ifanc gydio yn y cyfle i ddylanwadu ar y rheiny sydd mewn pŵer

Dywedodd Shenona, is-gadeirydd Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru bod "llais pobl ifanc wedi cael ei anwybyddu am amser hir".

"Mae llais pobl ifanc yn bwysig iawn - nid yn unig oes gennym ni safbwynt gwahanol, ond rwy'n credu bod llawer mwy ohonom yn ymwneud â gwleidyddiaeth na'r hyn y mae pobl yn meddwl," meddai.

"Gyda phethau fel newid hinsawdd rwy'n credu ei bod hyd yn oed yn bwysicach i gynnwys pobl ifanc oherwydd mae'n rhywbeth fydd yn effeithio ar genedlaethau'r dyfodol yn fwy na phobl hŷn."

'Fe allwn ni gael effaith enfawr'

Ychwanegodd Poppy, sy'n gadeirydd ar y grŵp y gallai effaith rhoi'r bleidlais i bobl 16 a 17 oed fod yn "enfawr".

"Os ydy pob person ifanc yn cofrestru i bleidleisio fe allwn ni gael effaith enfawr ar yr etholiad," meddai.

"Bydd yn gwneud i wleidyddion sylweddoli pa mor bwysig yw hi i ganolbwyntio ar faterion pobl ifanc a materion fel newid hinsawdd.

"Trwy bleidleisio, bydd gwleidyddion yn parchu ein barn - ac os dydych chi ddim yn pasio polisïau sy'n apelio i bobl ifanc fe allan nhw golli eu swyddi."

Ffynhonnell y llun, Poppy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Poppy o'r farn y gallai effaith rhoi'r bleidlais i bobl 16 a 17 oed fod yn "enfawr"

Ychwanegodd Shenona bod angen i bobl ifanc gydio yn y cyfle i ddylanwadu ar y rheiny sydd mewn pŵer.

"Rydw i mor ddiolchgar i fod yn rhan o'r genhedlaeth yma - rydyn ni o'r diwedd yn cael effaith fawr," meddai.

"Rydyn ni wedi gweld yr effaith mae'n bosib ei gael gydag ymgyrchwyr ifanc fel Greta Thunberg.

"Mae hi mor allweddol ein bod ni'n dechrau gweithredu rŵan - mae gan bobl ifanc y pŵer i wneud arweinwyr yn ymwybodol."

Beth ydy addewidion y pleidiau ar yr hinsawdd?

Llafur Cymru

  • Creu swyddi ar draws Cymru gydag ynni gwyrdd, dulliau diogelu'r amgylchedd a thwristiaeth;

  • Gwahardd y defnydd o'r plastigau untro sy'n cael eu gadael fwyaf fel sbwriel, gan ddiogelu'r moroedd a chefn gwlad;

  • Creu Coedwig Genedlaethol i Gymru, er lles cydraddoldeb ac iechyd meddwl yn ogystal â'r amgylchedd.

Ceidwadwyr Cymreig

  • Cyflwyno Deddf Aer Clir i dorri llygredd a lleihau'r achosion o glefydau anadlol;

  • Gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol fel weips gwlyb plastig, gwellt yfed, troellwyr diodydd, cwpanau untro a ffyn cotwm, yn ogystal â chreu cynllun dychwelyd ernes ar ddiodydd;

  • Mynd i'r afael â newid hinsawdd drwy sicrhau bod Cymru yn bodloni ein targed allyriadau carbon sero-net erbyn 2040.

Plaid Cymru

  • Sefydlu cenhadaeth ar draws Cymru i gynhyrchu 100% o'n trydan a chyrraedd dim allyriadau erbyn 2035;

  • Cyflwyno Deddf Natur gyda thargedau statudol i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050;

  • Ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd diogel o ansawdd da o fewn pum munud ar droed o bob aelwyd yng Nghymru.

Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig

  • Mynd i'r afael â llygredd a glanhau'r aer rydyn ni'n ei anadlu gyda Deddf Aer Clir yn y 100 diwrnod cyntaf;

  • Gwobrwyo cynlluniau ffermio sy'n lleihau allyriadau carbon a chynyddu storio carbon drwy system daliadau gynaliadwy newydd;

  • Adfywio'r broses gynllunio i hyrwyddo'r syniad o gymunedau 20 munud, drwy leihau'r defnydd o geir a sicrhau bod gan bob cymuned fynediad at fannau gwyrdd bio-amrywiol.

Plaid Werdd Cymru

  • Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy sicrhau bod targedau lleihau allyriadau carbon yn cael eu gwireddu ar y raddfa a'r cyflymder sydd ei angen, fel sy'n ofynnol gan wyddoniaeth;

  • Cyflwyno gweledigaeth Werdd ar gyfer sero-net erbyn 2030, gan ddisodli tanwyddau ffosil gydag ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr a gwneud gwaith uwchraddio angenrheidiol i'r grid trydan;

  • Penodi Comisiynydd newydd o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer Bioamrywiaeth a Diogelu Anifeiliaid i ddadwneud y gostyngiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru;

  • Cynnig bil i wahardd plastig untro a deddfwriaeth i leihau'n raddol yr holl wastraff pecynnu na ellir ei ailgylchu, gyda'r nod o gael gostyngiad cyffredinol ar ddeunydd pacio.

UKIP Cymru

  • Lobio Llywodraeth y DU i gael gwared ar y Ddeddf Newid Hinsawdd (2008);

  • Cael gwared ar yr holl gymorthdaliadau ar gyfer y prosiectau ynni "gwyrdd" fel y'u gelwir sy'n trosglwyddo arian oddi wrth trethdalwyr, gan gynnwys y tlotaf mewn cymdeithas, i'r mentrwyr amgylcheddol hynny sydd eisoes yn gyfoethog;

  • Gwrthwynebu pob fferm wynt a solar gan eu bod yn anharddu tirlun Cymru yn ogystal â bod yn gostus ac annibynadwy;

  • Hyrwyddo'r twf mewn safonau ffermio, pysgota, diogelwch bwyd a lles anifeiliaid ym Mhrydain;

  • Bwrw ymlaen gyda gwaharddiad ôl-Brexit ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd.

Propel

  • Sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru gyda'r rhan fwyaf ohono yn eiddo i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, i gloddio cronfeydd nwy Cymru er mwyn disodli'r defnydd o nwy a fewnforiwyd;

  • Defnyddio cyflenwad ynni rhatach i gefnogi cyflogaeth lleol yn ein diwydiannau strategol allweddol, gan gynnwys dur a gweithgynhyrchu;

  • Creu Cronfa Gyfoeth Sofren gyda'r refeniw a grëwyd i gyflawni annibyniaeth ynni hirdymor drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy;

  • Defnyddio prifysgolion yng Nghymru i ddod yn arweinydd byd mewn technoleg dal a storio carbon;

  • Gwrthwynebu adeiladu unrhyw adweithyddion niwclear ac yn rhoi feto ar unrhyw ymgais i ddeunydd niwclear a gynhyrchir y tu allan i Gymru gael ei storio neu ei ollwng yn y wlad.

Diwygio UK

  • Dim polisïau amgylcheddol wedi'u cyhoeddi hyd yma.

Plaid Diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol

  • Dim polisïau amgylcheddol wedi'u cyhoeddi hyd yma.