Etholiad 2021: Miloedd o bobl ifanc heb gofrestru i bleidleisio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Sut i bleidleisio yn Etholiad Senedd Cymru 2021

Dyw miloedd o bleidleiswyr ifanc yng Nghymru ddim wedi cofrestru eto ar gyfer pleidleisio yn etholiad y Senedd, yn ôl ffigyrau gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, dolen allanol.

Am y tro cyntaf erioed mae 70,000 o bobl 16 a 17 oed yn gymwys i bleidleisio ar 6 Mai.

Mae'r ffigyrau yn awgrymu bod llai na 9,000 o bobl ifanc wedi cofrestru mewn chwe sir.

Mae angen cofrestru erbyn dydd Llun, 19 Ebrill.

Dywed Jess Blair, o'r gymdeithas bod "yna risg nad yw pobl ifanc yn cael dweud eu dweud".

Disgrifiad,

Dwy bleidlais, ond pam?

Dywed Sophie o ardal Caerffili ei bod hi wedi cofrestru i bleidleisio gan ei bod hi'n bwysig bod "llais pobl ifanc yn cael ei glywed".

"Wrth i bobl ifanc gofrestru i bleidleisio, bydd gwleidyddion yn clywed ein lleisiau a bydd pethau'n newid," meddai.

Wedi newid cyfreithiol cafodd oedran pleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd ei ostwng - gan ganiatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf mewn etholiad yng Nghymru.

Eisoes mae pobl ifanc wedi cael pleidleisio yn Yr Alban - yn refferendwm annibyniaeth 2014 ac etholiad Holyrood yn 2016.

Nifer Sir Abertawe llawer yn is na Bro Morgannwg

Dyw union nifer y bobl ifanc sydd wedi cofrestru i bleidleisio ddim ar gael ond mae data gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn dangos bod y niferoedd sydd wedi cofrestru yn amrywio'n fawr o ardal i ardal.

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod 2,358,070 o bobl wedi cofrestru yng Nghymru erbyn 2 Mawrth - amcangyfrifir fod poblogaeth Cymru yn 3.15 miliwn.

Dim ond chwe chyngor hyd yma sydd wedi rhoi gwybodaeth am faint o bobl ifanc 16 a 17 oed wnaeth gofrestru erbyn 7 Ebrill.

Yn Sir Abertawe roedd 1,697 wedi cofrestru (33%), 1,107 yng Nghastell-nedd Port Talbot (35.3%), a 1,138 yn Sir Benfro (41.3%).

Yng Nghonwy roedd y niferoedd yn uwch gyda 1,383 wedi cofrestru (57.2%), yn Sir Ddinbych roedd y nifer yn 1,229 (57.7%) ac ym Mro Morgannwg mae 1,969 (64.9%) wedi cofrestru i bleidleisio.

Ychwanegodd Ms Blair bod y ffigyrau yn "cadarnhau'r ofnau na fydd miloedd o bobl ifanc 16 a 17 oed yn cael dweud eu dweud" ar 6 Mai.

"Mae'r etholiad y Senedd yn rhoi cyfle enfawr i bobl ifanc roi barn ar nifer o bynciau gan gynnwys addysg, iechyd a'r economi," meddai.

"Dylai gostwng yr oed pleidleisio yng Nghymru fod yn gam hanesyddol ond i hynny ddigwydd mae'n rhaid i bobl ifanc 16 ac 17 oed gofrestru a phleidleisio."

Sut rwy'n cofrestru i bleidleisio?

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, mae gennych tan 23.59 ar 19 Ebrill.

Mae modd gwneud hynny ar-lein, dolen allanol neu drwy'r post.

Os ydych yn ansicr a ydych wedi pleidleisio neu beidio mae modd cysylltu â'ch cyngor lleol.