Eira yn atal gêm Morgannwg yn Sir Efrog

  • Cyhoeddwyd
Billy RootFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Billy Root bartneriaeth dda gyda Chris Cooke cyn i'r eira atal y chwarae

Mae Morgannwg wedi cael ergyd i'w gobeithion o drechu Sir Efrog wedi i'r gêm gael ei atal am oriau ddydd Sadwrn oherwydd eira.

Fe wnaeth Morgannwg ddechrau'r trydydd diwrnod ar sgôr o 68-4 yn eu hail fatiad, wedi iddyn nhw gael cyfanswm o 330 yn eu batiad cyntaf.

Cafodd Sir Efrog eu bowlio allan am 193 yn eu batiad cyntaf nhw.

Fe gafodd Billy Root (77 heb fod allan) a Chris Cooke (57 heb fod allan) bartneriaeth dda i sefydlogi ail fatiad yr ymwelwyr, wrth iddyn nhw gyrraedd cyfanswm o 161-4 erbyn amser cinio.

Ond yna fe ddaeth eira trwm i atal y gêm rhag ailddechrau o gwbl yn y prynhawn.

Bydd Morgannwg felly yn dechrau'r diwrnod olaf yn Headingley gyda mantais o 298 a chwe wiced yn weddill.

Pynciau cysylltiedig