Morgannwg yn gorfod bodloni ar gêm gyfartal yn Sir Efrog
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Forgannwg fodloni ar gêm gyfartal yn Sir Efrog ym Mhencampwriaeth y Siroedd wedi i'r tîm cartref lwyddo i fatio am y mwyafrif o'r diwrnod olaf yn Headingley.
Fe ddechreuodd Morgannwg y diwrnod olaf ar sgôr o 161-4 yn eu hail fatiad - mantais o 298 dros y tîm cartref - wedi i eira ddod â'r chwarae i ben yn gynnar ddydd Sadwrn.
Llwyddodd Billy Root (110 heb fod allan) a Chris Cooke (102 heb fod allan) i ymestyn sgôr yr ymwelwyr i 241-4 cyn iddyn nhw ddod â'u batiad i ben yn gynnar er mwyn ceisio bowlio Sir Efrog allan cyn diwedd y dydd.
Gosodwyd targed o 379 i Sir Efrog felly, ond eu bwriad nhw oedd ceisio batio am weddill y dydd er mwyn sicrhau gêm gyfartal.
Fe lwyddon nhw i wneud union hynny diolch i berfformiad gwych gan Adam Lyth (115 heb fod allan), wrth i'r ddau gapten fodloni ar gêm gyfartal gyda Sir Efrog ar sgôr o 223/4.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2021