Iawndal i ddyn o Benarlâg wrth i achos barhau

  • Cyhoeddwyd
Philip Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Philip Edwards werthu ei dŷ drwy gwmni a oedd yn dweud ei fod yn arbenigo mewn gwerthiant cyflym

Mae dau gyfreithiwr yn wynebu camau disgyblu am eu rhan mewn cynllun gwerthu eiddo yn sydyn - cynllun a honnir o fod yn dwyllodrus.

Mae 12 o bobl wedi cael iawndal wedi ymchwiliad gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i'r gwasanaethau cyfreithiol oedd yn cael eu darparu gan gwmni Kumari-Banga o Ganolbarth Lloegr - cwmni a oedd yn gwerthu cartrefi drwy wefan speedyproperty.co.uk.

Mae'r partneriaid Meena Kumari a Teena Kumari-Banga, sydd â'u swyddfa yn Wolverhampton, yn wynebu gwrandawiad wedi honiadau eu bod wedi bod â rhan mewn trafodion trosglwyddo a oeddynt yn gwybod neu a ddylent fod yn gwybod eu bod yn dwyllodrus.

Mae Heddlu'r West Midlands, fel rhan o'u hymchwiliad i Speedy Property, wedi arestio a rhyddhau nifer o bobl ar amheuaeth o dwyll a throseddau cysylltiedig â chuddio tarddiad arian a gafwyd yn anghyfreithlon - roedd y cwmni yn addo, mewn hysbysebion papurau newydd ac ar-lein, gwerthu tai ar frys a darparu arian parod.

Fe gawson nhw'u rhyddhau wrth i uned trosedd economaidd yr heddlu gynnal ymholiadau pellach.

Yn Awst 2017 fe wnaeth BBC Cymru adrodd stori Philip Edwards o Benarlâg yn Sir y Fflint, a gafodd ond £68,000 wedi iddo werthu ei dŷ tair ystafell wely drwy speedyproperty.co.uk.

Doedd Mr Edwards, a oedd yn dioddef o ganser, ddim yn ymwybodol o'r taliadau tan i'r gwerthiant gael ei gwblhau ac roedd yn cael ei gynrychioli gan Kumari-Banga.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mr Edwards ddefnyddio'r cwmni i werthu ei dŷ ym Mhenarlâg

I ddechrau fe wnaeth e barhau fel tenant yn y tŷ a wnaeth ei etifeddu gan ei rieni, ond cafodd ei yrru oddi yno wedi iddo fethu talu'r rhent tra yn yr ysbyty.

Yn y pendraw fe wnaeth e symud i lety gwarchod gyda'i wraig a'i lysfab.

Mae Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr wedi cadarnhau y bydd Meena Kumari a Teena Kumari-Banga yn mynd ger bron gwrandawiad ar 21 Mehefin a bod disgwyl iddo bara pum diwrnod.

Mae'r cyhuddiadau yn erbyn y cyfreithwyr yn nodi eu bod wedi gweithredu trafodion trosglwyddo yr oeddynt yn gwybod neu a ddylent wybod eu bod yn dwyllodrus.

Maen nhw hefyd wedi cael eu cyhuddo o beidio ymchwilio'n iawn i'r trafodion, o beidio rhoi cyngor cywir i'w cleientiaid ac o beidio â derbyn cydsyniad ar sail penderfyniad cytbwys am daliadau i gwmnïau trydydd parti.

Mae Meena Kumari wedi cael ei chyhuddo hefyd o drefniant atgyfeirio a derbyn ffi am y gwaith hwn "mewn amgylchiadau a oedd yn cyfaddawdu ei hannibyniaeth ac annibyniaeth ei chwmni".

Mae'r cyhuddiadau yn erbyn y ddau gyfreithiwr yn deillio o'r cyfnod o 2013 i ganol 2017 ac mae dyfodol eu gwasanaeth cyfreithiol yn ddibynnol ar wrandawiad disgyblu yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Mae'r awdurdod hyd yma wedi talu £875,000 i ddwsin o gleientiaid y cwmni.

Fe wnaeth cyfreithiwr o Portsmouth, Nigel Cole, gynrychioli Philip Edwards a nifer o gleientiaid eraill yn eu hachos yn erbyn y cyfreithwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyfreithiwr Nigel Cole bod nifer o'r cleientiaid yn fregus

Mae Mr Edwards yn un o chwe chleient sydd wedi derbyn grantiau gan gronfa iawndal yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn gynharach eleni.

"Rwy'n falch bod y cyfan drosodd iddyn nhw a'u bod o'r diwedd wedi cael ychydig o arian yn ôl," medd Mr Cole.

O'r blaen dywedodd Mr Cole bod nifer o'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio yn "fregus iawn" gan gynnwys pobl oedrannus a rhai sydd â salwch difrifol.

'Arian sylweddol yn ôl'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr bod "nifer o gleientiaid Kumari-Banga wedi dod atom oherwydd methiant y cwmni i roi gwybodaeth am eu harian".

"Hyd yma ry'n wedi gwneud 12 taliad o'n cronfa iawndal sef cyfanswm o oddeutu £875,000," meddai.

"Fydd cais pawb ddim yn llwyddiannus - mae'n rhaid cwrdd â chriteria penodol.

"Ond bydd nifer o bobl fregus wedi derbyn arian sylweddol yn ôl."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r West Midlands: "Mae wyth o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dwyll a throseddau cysylltiedig â chuddio tarddiad arian a gafwyd yn anghyfreithlon.

"Mae deg person arall yn cael eu cyfweld o'u gwirfodd. Mae'r ymchwiliad yn parhau."

Pynciau cysylltiedig