Gwneud synnwyr o'r sbin mewn podlediad newydd am yr etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r gair 'digynsail' wedi cael ei ddefnyddio yn aml i ddisgrifio'r flwyddyn ddiwethaf.
Heb os, mae hwn yn etholiad na welwyd ei debyg o'r blaen yng Nghymru.
Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd Dafydd Morgan a minnau yn mynd ati i drafod be' sy'n bwysig i chi, pam mae o'n bwysig, a be' hoffech chi weld Llywodraeth nesaf Cymru yn ei gyflawni?
Ond beth am y pynciau llosg 'na? Be' sy'n ein hannog ni i roi'n croes yn y bocs? A pham mae'r etholiad eleni mor wahanol?
Pandemig
Y gair ar wefusau pawb. Am y tro cyntaf ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy' bellach yn Senedd Cymru, fe bleidleisiodd Aelodau i gymeradwyo'r hawl i ohirio'r etholiad petae'n rhaid gwneud hynny, a hynny oherwydd sefyllfa Covid 19.
Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, bydd gofyn i lywodraeth nesaf Cymru arwain y wlad y tu hwnt i'r cyfyngiadau, at y 'normal newydd'.
Â'r gwasanaeth iechyd yn gwegian, busnesau dan bwysau, ysgolion yn croesawu disgyblion yn ôl a chwricwlwm newydd ar y gweill, mae'n deg dweud fod Covid 19 yn bwrw'i gysgod dros y bleidlais eleni.
Pegynau
Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain? Yma yng Nghymru, mae dyddiau gwleidyddiaeth pedair plaid yn hen hanes, bellach.
Eleni, ag ymgyrch annibyniaeth i Gymru yn codi stêm, yn ogystal ag ymgeiswyr o blaid sydd â'i bryd ar ddiddymu'r Senedd yn llwyr, mae'r pegynau barn mor amlwg ag erioed.
Pwnc arall sy' dan yr un ymbarel, yw camwybodaeth, a sut mae gwahaniaethu rhwng manylion cywir, a'r hyn sy'n cael ei alw'n newyddion ffug.
Pleidlais ifanc
Am y tro cyntaf eleni, bydd hawl gan bobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio yng Nghymru.
Dyma bwnc arall sy'n hollti barn, ac fe fydd yn ddifyr gweld sut effaith gaiff y newid ar nifer y bobl sy'n bwrw pleidlais, yn ogystal ag i bwy fydd croes y bleidlais ifanc yn mynd?
Hefyd o ddiddordeb: