Pum peth doeddet ti ddim yn ei wybod am Ramadan

  • Cyhoeddwyd
Sara YassineFfynhonnell y llun, Sara Yassine

Dechreuodd yr ŵyl Fwslemaidd Ramadan yr wythnos yma - ond beth yn union yw Ramadan?

Ramadan yw'r nawfed mis yn y calendr Islamaidd, un o'r misoedd mwyaf sanctaidd. Yn ystod y mis mae angen ymprydio ac mae Mwslemiaid yn credu mai dyma'r mis lle cafodd y Quran ei ddatgelu.

Sara Yassine sydd yn egluro rhai o'r camsyniadau mwyaf cyffredin sydd gan bobl amdano...

Ein bod yn ymprydio am fis heb seibiant

Dwi ddim yn siŵr os byddwn i'n llwyddiannus iawn os oedd hwn yn wir... Mae Ramadan yn para am 29/30 diwrnod (yn dibynnu ar y lleuad - rydym yn ffeindio allan ar ddiwrnod 29 os ydy Ramadan wedi gorffen neu os oes un diwrnod arall i fynd) ond rydym ond yn ymprydio yn ystod y dydd, felly mae bwyta yn ystod y nos yn iawn.

Ar hyn o bryd yng Nghaerdydd mae'r haul yn gwawrio am 4:40am, ac yn machlud am 8:10pm - mae'n ddiwrnod hir ond rydym yn dod i arfer gyda fe yn eitha' cloi.

Er mwyn trio gwneud y diwrnod yn haws, rydym yn codi'n gynnar er mwyn bwyta cyn i'r ympryd dechrau (yn Arabeg, y gair ar gyfer hwn yw suhoor). Mae suhoor fel arfer yn amser eitha' dawel yn fy nhŷ i, nid oherwydd rheswm crefyddol, mae e jyst rhy gynnar i siarad gydag unrhyw un!

Dwi fel arfer yn bwyta uwd er mwyn aros yn llawn cyhyd ag y bo modd, ond weithiau dwi ddim yn bwyta o gwbl - ond dwi o hyd yn difaru hwn yn hwyrach yn y diwrnod. Pan mae'r mis drosodd, mae bwyta yn ystod y dydd eto yn teimlo'n rîli od!

Ffynhonnell y llun, Sara Yassine
Disgrifiad o’r llun,

Iftar yw'r enw ar y pryd bwyd sydd yn cael ei fwyta ar ôl i'r haul fachlud, yn dilyn diwrnod o ymprydio yn ystod Ramadan. Mae'r ysgrifen Arabeg yn dweud 'Ramadan Mubarak' a 'Ramadan Kareem' sef Ramadan Hapus!

Ei fod yn digwydd yr un pryd bob blwyddyn

Er mai'r nawfed mis yn y calendr Islamaidd yw Ramadan pob tro, mae'r mis yn symud ymlaen tua 10 diwrnod pob blwyddyn. Fel wnes i sôn, mae'r calendr Islamaidd yn dibynnu ar y lleuad. Blwyddyn ddiwethaf wnaeth Ramadan ddechrau ar y 24ain o Ebrill, ond eleni dechreuodd ar y 13eg o Ebrill.

Dwi'n edrych ymlaen at pan fydd Ramadan yn y gaeaf - diwrnodau byr!

Bod dŵr yn iawn

Dwi'n meddwl mai dyma'r camsyniad mwyaf cyffredin ond, er ei fod yn swnio'n amhosib, dydyn ni ddim yn cael yfed unrhyw beth chwaith. Dim dŵr, dim coffi, dim unrhyw beth. Mae'n bwysig iawn felly ein bod ni'n yfed digon o ddŵr yn ystod y nos i sicrhau ein bod yn aros wedi hydradu.

I ddweud y gwir, yn y gorffennol dwi wedi anghofio fy mod i'n ymprydio nifer o weithiau a dechrau yfed/bwyta rhywbeth - ond mae'n hollol iawn os oedd yn gamgymeriad. (Dwi'n cofio yn yr ysgol unwaith wnaeth rhywun ddweud y dylwn i yfed/bwyta tra bod neb yn gwylio fi - o'n i mor shocked achos 'naeth y syniad byth croesi meddwl fi! Rydym yn credu bod Duw o hyd yn gwylio, felly ti methu cuddio...)

Mae ymprydio hefyd yn golygu dim ysmygu, dim gwm cnoi a dim gweithgaredd rhywiol yn ystod yr oriau yma, felly nid jyst bwyd!

Bod angen i bob Mwslim ymprydio

Mae hwn bron yn wir... ond beth sydd ar goll yn y frawddeg yna yw 'sy'n gallu'.

Gall nifer o bethau effeithio ar allu rhywun i ymprydio e.e. salwch, mislif, beichiogrwydd. Dyw plant ddim yn ymprydio, na chwaith pobl sydd yn rhy hen lle byddai ymprydio yn effeithio ar eu hiechyd nhw.

Ffynhonnell y llun, Sara Yassine
Disgrifiad o’r llun,

Sara gyda'i brawd bach Yusef ger y Mosg Glas yn Nhwrci. Does yna ddim disgwyl i blant ymprydio

Mae Islam yn grefydd teg ac yn cydnabod bod e ddim yn hawdd i bawb. Gyda'r rhesymau uchod i gyd, byddwn i'n trio osgoi gofyn i bobl pam bod nhw ddim yn ymprydio - gall arwain at sgwrs anghyfforddus.

Ein bod ni'n casáu'r mis

I'r gwrthwyneb! Dwi'n gwybod bod e'n swnio'n anodd ac yn annymunol, ond peidiwch teimlo'n wael drosom; mae Mwslemiaid wir yn edrych ymlaen at Ramadan pob blwyddyn.

Mae'n amser i ni wella fel Mwslemiaid a gwella ein perthynas gyda Duw. Rydym yn cynyddu faint o Quran rydym yn ei ddarllen, yn gwneud lot o fyfyrio, yn gweddïo mwy ac yn rhoi mwy i elusennau (os yn bosib).

Ffynhonnell y llun, Sara Yassine
Disgrifiad o’r llun,

Y rhan o'r Quran sy'n sôn am Ramdan. Mae Mwslemiaid yn darllen llawer ar y llyfr sanctaidd yn ystod y mis

Rydym yn defnyddio'r mis i drio cael gwared ar arferion drwg a dechrau rhai da. Mae'n wir fod ymprydio yn helpu ni i deimlo dros bobl sydd heb fwyd, ond mae e hefyd yn dysgu disgyblaeth i ni.

Rydym yn credu bod y mis yn llawn bendith a ddim eisiau iddo fe fod drosodd!

Os oes gennych chi ffrindiau Mwslim, dymunwch Ramadan Kareem (Ramadan Hapus) iddyn nhw!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig