Apêl llofruddiaeth: Gwybodaeth newydd yn dod i law

  • Cyhoeddwyd
Mohammed Ali EgeFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mohammed Ali Ege ddianc o'r ddalfa tra'n disgwyl i gael ei hedfan yn ôl i'r DU

Mae'r heddlu sy'n chwilio am ddyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth bachgen 17 oed wedi cael gwybodaeth newydd a allai fod o gymorth yn eu hymchwiliad.

Cafodd Aamir Siddiqi ei ladd yn ei gartref yn ardal Y Rhath, Caerdydd, ym mis Ebrill 2010, wedi i'r rheiny oedd yn gyfrifol fynd i'r tŷ anghywir.

Aeth Mohammed Ali Ege, 42, i India cyn i dditectifs gael cyfle i'w holi mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth, ac er iddo gael ei arestio yno yn 2011, llwyddodd i ddianc yn 2017 tra'n disgwyl i gael ei hedfan yn ôl i'r DU.

Mae gwybodaeth ychwanegol wedi dod i law ar ôl i Heddlu De Cymru ryddhau lluniau newydd o Mr Ege, gafodd eu tynnu tra roedd yn y ddalfa yn India.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref yn Y Rhath, Caerdydd

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu: "Rydym wedi derbyn gwybodaeh o ganlyniad i apêl gyhoeddus ddiweddar, a hoffai Heddlu De Cymru ddiolch i'r unigolion hynny sydd wedi cysylltu â ni."

Gwnaed yr apêl union 11 mlynedd ers i Aamir Siddiqi gael ei lofruddio o flaen ei rieni wrth iddo ddisgwyl am ei athro Quran.

Cafodd Jason Richards a Ben Hope eu carcharu yn 2013 am leiafswm o 40 mlynedd, am drywanu Aamir i farwolaeth, ond dyw'r heddlu ddim yn gwybod ble mae Mr Ege.

Ffynhonnell y llun, Alamy

Oherwydd ffrae dros eiddo, roedd dyn busnes wedi talu £1,000 i'r ddau am ladd tad i bedwar o blant a oedd yn byw mewn stryd gyfagos.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd rhyngwladol i geisio dod o hyd i Ege a'i ddychwelyd i'r DU".

Mae'r llu wedi annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am Mr Ege, a oedd yn wreiddiol o ardal Glan-yr-afon, Caerdydd, i gysylltu â nhw.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Ben Hope a Jason Richards yn euog o lofruddio Aamir Siddiqi yn Llys y Goron Abertawe

Pynciau cysylltiedig