Siopau Cymru'n croesawu ymwelwyr ar y penwythnos unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Dyma'r penwythnos cyntaf ers misoedd lle mae modd i ymwelwyr o Loegr deithio i Gymru.
Er bod y ffyrdd i lefydd fel Pen Llŷn ychydig yn brysurach nag yn ddiweddar, mae'n ymddangos mai cynyddu'n raddol mae nifer yr ymwelwyr i'r ardal.
Mae Siop Glanaber ynghanol tref Pwllheli wedi bod yn rhan o deulu Dafydd Sion Rees-Jones er cenedlaethau.
Ond go brin fod llawer o gyfnodau wedi bod mor heriol â'r 12 mis diwethaf.
"'Da ni'n dibynnu yn fa'ma, 'swn i'n d'eud, 80% ar ymwelwyr," meddai Dafydd.
"Does 'na ddim llawar o ymwelwyr i lawr ond gobeithio, fel 'da ni'n dod at yr haf yn iawn, fydd pawb yn bihafio a gobeithio gawn ni flwyddyn brysur ofnadwy."
Dywedodd fod haf y llynedd wedi profi i fod yn un llwyddiannus iawn i'r siop ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Ac mae 'na groeso i'r llacio eto eleni ymhlith busnesau'r ardal - ond croeso gofalus.
"'Da ni'n falch o'i gweld nhw [ymwelwyr]," meddai Nan Morgan Williams o Siop Hufen Ia Glasu.
"Nhw sy'n dod â'r arian i'r busnesa' bach yma a 'da ni wir angan nhw i ddod as long as bod pawb yn sdicio i'r rheola', eith bob dim yn iawn."
Atgoffa pobl i lanhau dwylo
Mae holl siopau Cymru wedi gallu ailagor ers 12 Ebrill.
Cyn hynny, dim ond siopau oedd yn gwerthu nwyddau oedd yn cael eu hystyried yn 'hanfodol' oedd ar agor.
Dywedodd Vicky Davies, cynorthwyydd siop Eifion Stores yng Nghricieth, bod yr wythnos gyntaf yn ôl wedi mynd yn dda - gyda phawb yn gwisgo masgiau ac yn cadw pellter cymdeithasol.
"Rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar faint o bobl sy'n dod mewn i'r siop ar unwaith gan gadw at tua pedwar person ar y tro," meddai.
"Mae pobl wedi bod yn gall iawn. Dwi'n meddwl fod pawb wedi dod i arfer efo'r rheolau ac maen nhw'n ymwybodol o'i gilydd."
Ond dywedodd Ms Davies bod yn rhaid iddi atgoffa pobl o bryd i'w gilydd i lanhau eu dwylo.
"Os dwi'n gweld rhywun yn anghofio defnyddio glanweithydd dwylo, dwi'n dweud wrthyn nhw fod peth yma os fyddan nhw'n hoffi ei ddefnyddio. Mae hynny'n rhoi hwb fach iddyn nhw wneud."
Ychwanegodd: "Dwi isio gwneud i'n cwsmeriaid deimlo'n gyfforddus oherwydd nid pawb sy'n teimlo'n hyderus eto.
"Mae pobl wedi bod mor gyfeillgar ac yn hynod o siaradus. Mae pobl wir yn falch o gael dod allan o'r diwedd."
Roedd pethau hefyd wedi mynd yn dda i Alun Jones, perchennog Siop Eluned ym Mhwllheli, a wnaeth ddechrau gwasanaeth dosbarthu blodau gyda'i wraig yn ystod y cyfnod clo.
"Mae bob dim wedi mynd yn iawn. Mae hi wedi bod yn wythnos gymharol ddistaw i ddweud y gwir, a gan ein bod yn siop fach, dydan ni ddim yn cael lot o bobl i mewn efo'i gilydd - un teulu ar y tro," meddai.
"Mae pobl wedi bod yn cadw o fewn y rheolau, felly does 'na ddim problemau 'di bod."
Yn ogystal â chroesawu pobl yn ôl i'w siop, bydd Mr Jones a'i wraig yn parhau i gynnig eu gwasanaeth blodau o ddrws i ddrws yn dilyn ymateb cadarnhaol gan y bobl leol.
Dywed cynghorydd tref Pwllheli, Mike Parry, fod y pandemig yn gyfle i lefydd fel Llŷn.
"Fydd 'na fawr o neb yn mynd dramor, felly lle amlwg i ddod ydi rwla fel Pen Llŷn," meddai.
"Cael nhw yma yn y tro cynta' ydi'r job fawr, ac yn anffodus ma'r busnas Covid 'ma yn rhoi'r cyfla i ni 'neud hynny.
"Dwi wedi bod yn gwneud ymholiada'n ddiweddara [am le aros] i ffrind o Stoke-on-trent a ma' hi bron yn amhosib ca'l lle iddyn nhw.
"Ma'r rhagolygon yn dda i Ben Llŷn yr haf 'ma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2021