Dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad â thractor yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 69 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thractor yng Ngwynedd fore Gwener.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad yn ardal Y Bermo toc cyn 10:00.
Fe wnaeth yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân ac achub oll fynychu'r digwyddiad.
Nid yw'r llu wedi rhoi mwy o fanylion am y digwyddiad, ar wahân i'r ffaith ei fod wedi digwydd ar dir preifat a'i fod yn ymwneud â thractor.
Dywedodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad ac yn cydymdeimlo gyda'r teulu.