George Floyd: Gweinidog yn ymddiheuro am sylwadau 'ansensitif'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro am feirniadu'r sylw oedd yn cael ei roi gan y cyfryngau i reithfarn achos llofruddiaeth George Floyd.
Roedd y gweinidog Llafur Lee Waters wedi dweud y byddai gan Gymru "ymgyrch etholiadol well" pe bai'n cael yr un sylw â "newyddion domestig yr Unol Daleithiau".
Cafwyd y cyn-heddwas Derek Chauvin yn euog o lofruddio Mr Floyd ar ôl penlinio ar ei wddf yn ystod ei arestiad ym Minneapolis fis Mai diwethaf.
Sbardunodd y digwyddiad brotestiadau ledled y byd yn erbyn hiliaeth a grym gormodol.
Fe bostiodd Mr Waters, dirprwy weinidog trafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, ei sylwadau ar Twitter wrth wylio'r Ten O'Clock News ar y BBC, a oedd yn rhoi sylw i reithfarn y rheithgor yn fyw nos Fawrth.
Ysgrifennodd: "Pe bai gan bobl yng Nghymru gymaint o fynediad at gymaint o sylw yn y cyfryngau i benderfyniadau a oedd yn effeithio ar Gymru ag sydd ganddynt o newyddion domestig yr Unol Daleithiau, byddem yn cael gwell ymgyrch etholiadol."
Mae etholiadau Senedd Cymru yn cael eu cynnal ar 6 Mai.
Yn ddiweddarach, fe wnaeth Mr Waters ddileu'r trydariad, gan ddweud, dolen allanol: "O ran edrych 'nôl, amseru ansensitif. Heb dynnu oddi wrth anferthwch y mater, roedd yn rhwystredig bod News at 10 wedi troi ei hun yn Newyddion24".
Beth ydy'r ymateb?
Cafodd sylwadau gwreiddiol y gweinidog eu beirniadu fel rhai "erchyll" ac "anwybodus" gan ddefnyddwyr eraill y platfform cyfryngau cymdeithasol.
Roedd ymateb pleidiau gwleidyddol eraill hefyd yn feirniadol o'r gweinidog Llafur.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Roedd trydariad Lee Waters yn amhriodol iawn, yn wael ei farn ac yn ddifeddwl.
"Mae llofruddiaeth George Floyd a'r achos dilynol o arwyddocâd byd-eang ac yn ein hatgoffa'n gryf bod angen gwneud cymaint mwy i fynd i'r afael â hiliaeth strwythurol a sefydliadol - gan gynnwys yma yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae gwneud y gymhariaeth rhwng marwolaeth unigolyn yn nwylo'r heddlu a'i farn am sylw gwleidyddol yng Nghymru yn farn ffôl ac eithriadol o wael. Rydym yn falch o weld ei fod dileu ei drydariad."