Dwayne Peel wedi'i benodi'n brif hyfforddwr y Scarlets
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-fewnwr Cymru, Dwayne Peel wedi cael ei benodi yn brif hyfforddwr y Scarlets ar ôl iddo gael ei ryddhau o gytundeb gyda Gleision Caerdydd.
Mae penodiad Peel, 39, yn golygu bod y prif hyfforddwr presennol, Glenn Delaney yn symud i rôl cyfarwyddwr rygbi'r rhanbarth.
Yn wreiddiol roedd Peel wedi cytuno i ymuno â'r Gleision o Ulster dros yr haf i fod yn ddirprwy hyfforddwr.
Ond bellach mae'r rhanbarth o Gaerdydd wedi penodi hyfforddwr olwyr Caerwrangon, Matt Sherratt i gymryd y rôl honno.
'Cystadlu gyda'r timau gorau yn Ewrop'
Fe ddechreuodd Peel ei yrfa yn Llanelli, ac fe enillodd y Gamp Lawn ddwywaith fel chwaraewr wrth iddo ennill 76 o gapiau dros Gymru.
"Mae'r Scarlets wastad wedi golygu lot fawr i fi a fy nheulu, ac rydw i wrth fy modd o fod yn dychwelyd i fy nghlwb lleol fel prif hyfforddwr," meddai Peel.
"Fe fues i'n rhan o ddigwyddiadau anhygoel gyda'r Scarlets a rwy'n gwybod fod gan bawb o fewn y clwb yr uchelgais i fod yn cystadlu am dlysau yn rheolaidd a chystadlu gyda'r timau gorau yn Ewrop.
"Fel chwaraewr rydw i wedi profi angerdd cefnogwyr y Scarlets - mae 'na gysylltiad arbennig rhwng y cefnogwyr a'r clwb - ac rwy'n edrych ymlaen at weld pawb 'nôl ym Mharc y Scarlets y tymor nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2016