Dedfrydu ficer am wneud lluniau anweddus o blant
- Cyhoeddwyd
Mae ficer blaenllaw wedi cael dedfryd cymunedol ar ôl cyfaddef iddo edrych ar ddelweddau anweddus o blant ar-lein.
Plediodd y Parchedig Ganon Nigel Cahill, Rheithor Aberafan, yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i ddau gyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant rhwng 2016 a 2020.
Cafodd orchymyn cymunedol 18 mis o hyd a bydd rhaid cwblhau 45 diwrnod o weithgaredd ailsefydlu.
Bydd yn rhaid iddo hefyd fod ar y Gofrestr Troseddau Rhyw am bum mlynedd.
Cafodd y diffynnydd ei arestio yn ei gartref fis Mehefin y llynedd wedi i'r heddlu dderbyn gwybodaeth ynghylch ei ddefnydd o'r rhyngrwyd.
Cafwyd hyd i 219 o ddelweddau anweddus o blant ar ei ddyfeisiadau. Roedd tri o'r rheiny yn ddelweddau Categori B, all arwain at ddedfryd o chwe mis o garchar.
'Rydych wedi siomi nifer fawr o bobl'
Wrth ddedfrydu Cahill yn Llys Y Goron Abertawe, dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC nad oedd dedfryd o garchar yn angenrheidiol neu'n addas, o ystyried ei enw da cyn y troseddau, a bod dim euogfarnau blaenorol.
Ond fe ddywedodd wrtho y byddai dan warth sylweddol yn llygaid y cyhoedd "ac eich bai chi yn gyfan gwbl yw hynny".
Ychwanegodd: "Rydych chi, Mr Cahill, yn ddyn deallus, oedd yn gwybod yn iawn pa mor gyfeiliornus oedd e eich bod yn edrych ar y lluniau anweddus yma.
"Rydych chi wedi siomi nifer fawr o bobl… Bydden nhw'n teimlo synnwyr o fod wedi eu bradychu gan ddyn roedden nhw'n ei barchu ac yn dibynnu arno am arweiniad ysbrydol.
Cafodd Cahill ei atal o'i ddyletswyddau gan Yr Eglwys yng Nghymru yn syth ar ôl cael ei arestio yn y rheithordy ym Mhort Talbot y llynedd.
Plediodd yn euog i'r ddau gyhuddiad yn Llys Ynadon Abertawe ym mis Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Yr Eglwys yng Nghymru bryd hynny: "Mae'r Eglwys Yng Nghymru'n drist eithriadol a dan sioc bod un o'i glerigwyr wedi cyflawni trosedd mor ddifrifol.
"Rydym yn cadw holl ddioddefwyr camdriniaeth plant yn ein gweddïau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021