Hebogiaid yn atal gwaith atgyweirio ar Bont Britannia

  • Cyhoeddwyd
Pont Britannia
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pâr o hebogiaid wedi nythu yn nhŵr canol Pont Britannia

Mae gwaith atgyweirio ar Bont Britannia yn wynebu oedi, wedi iddi ddod i'r amlwg bod pâr o hebogiaid wedi nythu yno.

Mae Network Rail wedi gorfod newid yr amserlen ar gyfer gwneud gwelliannau i'r bont restredig Gradd II rhwng Gwynedd a Môn oherwydd y datblygiad.

Cafodd yr adar eu gweld gan aelod o'r cyhoedd yn hedfan i dop un o'r tyrrau ar y bont.

Yn dilyn cyngor gan ecolegwr a Chyfoeth Naturiol Cymru fe fydd y gwaith o atgyweirio'r bont yn parhau yn y man, gan ddechrau gyda'r tyrrau eraill.

Pont BritanniaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith atgyweirio yn dechrau ar y ddau dŵr arall nes i'r hebogiaid adael y tŵr canol

Mae sgaffaldau yn cael eu codi yno ac mae disgwyl i'r gwaith ddechrau fis nesaf, ond ni fydd gwaith yn cael ei wneud ar y tŵr canol - ble mae'r adar yn nythu - nes i'r hebogiaid adael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd yr ymgynghorydd ecolegol, James Campbell: "Fel arfer ceir hebogiaid yn nythu mewn mannau uchel, ar ben clogwyni neu adeiladau tal, ond dyma'r tro cyntaf i mi gael fy ngalw allan i fonitro'r adar godidog a phrin yma yn nythu yn nhŵr pont.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda Network Rail i barhau i fonitro'r adar dros y misoedd nesaf, ac mae gwaith ar y tŵr canol wedi peidio am y tro nes bod yr hebogiaid ifanc wedi magu plu ac wedi gadael y nyth, yn nes ymlaen yn y flwyddyn."

HebogFfynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd rheolwr prosiect Network Rail, Peter Caulfield eu bod yn "ymwybodol iawn o'r effaith y gallai ein gwaith ei chael ar yr amgylchedd lleol ac rydym yn ceisio peidio â tharfu mwy na sydd raid".

"O gofio pwysigrwydd cenedlaethol yr adar, allwn ni ddim mentro tarfu arnyn nhw, felly rydyn ni wedi gohirio'r gwaith ar dŵr canol Pont Britannia tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn," meddai.

Pynciau cysylltiedig