Croeso i wal goch Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae gwleidyddiaeth Cymru yn llawer mwy cymhleth a soffistigedig na mae'r rhan fwyaf o sylwebwyr allanol yn credu.

Serch hynny, o edrych ar hanes etholiadol rhanbarth Gorllewin De Cymru, hawdd fyddai credu bod gafael y blaid Lafur ar y de diwydiannol bron a bod yn dragwyddol.

Mae 'na saith etholaeth senedd yn y rhanbarth hwn sy'n ymestyn o Ben-y-bont yn y dwyrain i Gŵyr yn y gorllewin a does neb ond Llafur wedi ennill yr un ohonyn nhw ers dechrau datganoli. Croeso i wal goch Cymru.

Ond gadewch i ni grafu dan yr wyneb rhyw ychydig. Dyw pethau ddim fel y buon nhw i Lafur.

Os ydy'r faner goch yn dal i gyhwfan, mae'n reit garpiog erbyn hyn ac nid fesul dram y mae cyfri'r bleidlais Lafur.

Ceidwadwr sy'n cynrychioli Pen-y-bont yn San Steffan ac yn 2015 fe gipiodd y blaid honno Gŵyr a'i dal am un tymor.

Y ddwy etholaeth yna yw targedau'r Ceidwadwyr y tro hwn. Pen-y-bont yw'r fwyaf addawol o'r pâr yn enwedig gan fod Carwyn Jones yn ymddeol ar ôl ei chynrychioli o'r dechrau'n deg.

Hen linell bell nad yw'n bod yw prif darged Plaid Cymru yn y rhanbarth sef etholaeth Castell Nedd, sedd sydd hefyd yn cynnwys cymoedd Tawe, Nedd a Dulais.

Mae hi wedi bod ar restr targedau Plaid Cymru ers oes yr arth a'r blaidd ond dyw hi byth wedi syrthio. Fe fyddai'n dipyn o sioc pe bai hynny'n digwydd y tro hwn.

Os ydy Llafur yn dal ei gafael ar yr etholaethau, yna fe fydd y trothwy i ennill seddi rhestr yn un uchel gan ei gwneud hi'n anodd iawn i unrhyw un o'r pleidiau llai ennill sedd.

Dwy i'r Ceidwadwyr a dwy i Blaid Cymru yw'r canlyniad mwyaf tebygol ond, doed a ddelo, fe fydd 'na wynebau newydd i'w gweld yn y siambr.

Mae ASau rhestr Plaid Cymru, Bethan Sayed a Dai Lloyd yn sefyll lawr fel ymgeiswyr rhestr tra bod y Geidwadwraig Suzy Davies wedi ei gosod yn isel ar restr ei phlaid.

Mae Caroline Jones a etholwyd o dan faner Ukip tro diwethaf yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol ond go brin fod ganddi'r fath o gefnogaeth bersonol fyddai angen er mwyn gwneud marc.

Rwy'n amau mai geiriau Gwenallt fydd yn addas i bawb ond Llafur wythnos nesaf; "Paham y rhoddaist inni'r tristwch hwn?"