Gwalia Deserta

  • Cyhoeddwyd

Mae'n siŵr ein bod ni i gyd wedi darllen un o'r nofelau ffantasi yna rhyw dro - stori wedi ei gosod mewn byd jyst fel ein un ni, ond lle mae popeth yn wyneb i waered.

Canolbarth a Gorllewin Cymru yw rhanbarth etholiadol wyneb i waered Cymru. Rhanbarth gwledig sy'n cynnwys nid yn unig y cyfan o'r hen Ddyfed a Phowys, ond hefyd etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

Yn wahanol i'r pedwar rhanbarth arall, yn fan hyn ar y cyfan y gwrthbleidiau sydd wedi bod yn teyrnasu yn yr etholaethau a Llafur sydd wedi bod yn byw ar gardod y rhestr.

Dyw Llafur erioed wedi ennill sedd restr y tu fas i'r Canolbarth a'r Gorllewin ond, ac eithrio yn 2003, mae Llafur wedi ennill o leiaf un sedd ranbarthol ym mhob un etholiad yn y rhanbarth hwn.

Nid bod yr etholaethau'n anobeithiol i Lafur. Mae Llanelli yn sedd ymylol oedd yn eiddo i Lafur yn y senedd ddiwethaf ac yn y gorffennol cymharol bell mae'r blaid wedi cynrychioli Preseli Penfro a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro hefyd.

Mae'r ail o'r rheiny yn rhywbeth bur anghyffredin yng Nghymru sef sedd ymylol dair ffordd rhwng y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru.

Yn etholiadau Bae Caerdydd mae Ceredigion a Dwyfor Meirionnydd yn bancyrs i Blaid Cymru o gymryd na fydd ei haelodau yn dilyn esiampl Dafydd El trwy droi cefn ar y blaid ar ôl eu hethol!

Troi'n las ac yna lasach fyth fu hanes etholaethau Powys yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Heb Kirsty Williams fe fyddai dal Brycheiniog a Maesyfed yn dipyn o gamp i'r Democratiaid Rhyddfrydol ond o'i cholli mae gan y blaid gyfle i ennill sedd yng ngemau ail gyfle'r rhestr ranbarthol.

O safbwynt y seddi rhanbarth, ac eithrio un sedd i Lafur, rwlét pur yw hi gydag o leiaf pum plaid arall yn llygadu'r ornest hon. Pob lwc i bob un ohonyn nhw!