Covid-19: 42 achos yn ffatri gacennau Cake Crew yn Y Bala

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cake Crew, Bala
Disgrifiad o’r llun,

Ffatri Cake Crew yn Y Bala

Mae'r awdurdodau yn ceisio rheoli clwstwr o achosion o Covid-19 mewn ffatri fwyd yn Y Bala.

Mae 42 o achosion ymhlith gweithlu Cake Crew, yn ôl Cyngor Gwynedd.

Mae'r cwmni yn cyflogi 330 o bobl i gyd.

Dywed Tîm Rheoli Digwyddiad y cyngor hefyd bod un disgybl o ysgol uwchradd leol wedi cael prawf positif am yr haint o ganlyniad i'r lledaeniad yn y ffatri.

Dywedodd llefarydd ar ran y tîm aml-asiantaeth eu bod yn "gweithio'n agos gyda'r cwmni i reoli'r sefyllfa".

'Ysgol wedi gweithredu'n brydlon'

"Mae'r holl staff sydd wedi profi'n bositif neu sydd wedi'u nodi fel cysylltiadau wedi cael cais i hunan-ynysu er mwyn helpu i atal lledaeniad yr haint," meddai.

"Mae'r timau Profi, Olrhain a Diogelu lleol yn cysylltu gyda phawb sy'n cael eu heffeithio ac yn darparu cyngor ychwanegol ar eu cyfer eu hunain, eu cartref a chysylltiadau eraill.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffatri wedi'i lleoli ym Mharc Menter Bala

"Yn ogystal, mae un disgybl o Ysgol Godre'r Berwyn, sydd â chysylltiad gyda'r achosion yn Cake Crew, wedi profi'n bositif am Covid-19. Maen nhw ynghyd â'r holl gysylltiadau perthnasol o'r ysgol yn hunan-ynysu.

"Mae'r ysgol wedi gweithredu'n brydlon ac yn gweithio gyda'r tîm Profi, Olrhain a Diogelu lleol i ddarparu cyngor i'r teuluoedd perthnasol."

Mae'r Tîm Rheoli Digwyddiad yn cynnwys cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Amwythig.

Yn ôl ffigyrau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, dim ond 64 o achosion newydd gafodd eu cadarnhau drwy Gymru yn y 24 awr hyd at 09:00 ar 20 Ebrill.

Mae'r gyfradd achosion wythnosol fesul 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod yn 15.2 dros Gymru.

Gwynedd sydd ag un o'r cyfraddau uchaf, gyda 25.7, tu ôl i Abertawe (27.1) a Chasnewydd (25.9).

Pynciau cysylltiedig