'Angen mwy o ardaloedd gwyrdd yn ein trefi a dinasoedd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bev Lennon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bev Lennon wedi bod yn osgoi mynd i'w pharc lleol yn ystod adegau prysur oherwydd pryderon am y feirws

"Amser yma o'r dydd, 'swn i ddim yn gallu cwrdd â chi yn y parc oherwydd mae'n gormod o stress, beth yw'r pwynt rhoi fy hunan drwy hynny?

"Rhywbryd yn araf deg bydda i'n dechrau mynd allan, ond mae'n rhaid i fi ddewis fy amser."

I Bev Lennon o'r Barri ym Mro Morgannwg, mae'r dilema yn un greulon - mae'n dyheu am allu mynd allan i'r awyr iach yn amlach fel ffordd o ymdopi yn ystod y pandemig, ac ar yr un pryd, dyna'r union beth sy'n ei hatal hi rhag gallu gwneud.

Ond wrth i'r trafod ddigwydd am sut all Cymru ailadeiladu yn dilyn Covid, mae'n teimlo'n gryfach nag erioed y bydd mannau gwyrdd yn hollbwysig yn yr adferiad hwnnw.

'Ffordd arall o fyw'

Fel llawer o bobl eraill mae Bev, 59, yn dweud bod y pandemig wedi bod yn "anodd dros ben" iddi yn feddyliol wrth i bryderon am Covid-19 fynd yn drech na hi ar adegau.

Roedd yr "ofn" hwnnw'n arbennig o amlwg wrth i straeon yn y newyddion awgrymu bod mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig fel petaen nhw'n cael eu taro'n wael gyda'r feirws.

Ar ôl darllen am bobl oedd wedi bod yn dioddef o 'orbryder iechyd' yn ystod y pandemig yn ddiweddar, sylweddolodd ei bod yn gallu uniaethu gyda llawer o'u teimladau nhw.

cerdded yn y parcFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae parciau lleol wedi bod yn gyrchfannau poblogaidd yn ystod y pandemig wrth i bobl orfod aros yn agos at adref

"Bob tro o'n i'n edrych ar y newyddion o'n i'n sylwi bod 'na clipboard a phapur a pen a phensil yn sgwennu lawr faint o bobl sydd wedi marw, pa ardal ac yn y blaen," meddai.

Wrth i hynny effeithio ar ei hiechyd meddwl, a phryder am fynd allan i lefydd cyhoeddus, byddai'n dod o hyd i gysur mewn pethau eraill - planhigion yn y tŷ, gwrando ar Radio Cymru, ysgrifennu straeon, a gweld adar a byd natur o'r ardd.

Ac wrth i wleidyddion drafod sut i arwain yr adferiad yn dilyn y pandemig yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd, mae Bev Lennon yn awyddus bod manteision mwy o lecynnau gwyrdd mewn ardaloedd trefol yn rhywbeth sy'n cael eu hystyried.

planhigyn yn y tŷ
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael planhigion yn y tŷ yn ffordd yn gysur i Bev Lennon pan oedd hi'n poeni am fynd allan

"Dwi'n meddwl am bobl yn y gymuned, dwi'n meddwl am sut mae pobl eraill yn ymdopi... [achos] roedd rhaid i fi ffeindio ffordd arall i fyw yn fy milltir sgwâr i," meddai Bev.

"Fi eisiau pethau fod yn wyrddach. O'n i'n meddwl am bobl mewn fflatiau er enghraifft - sut ydyn ni'n mynd i adeiladu o hyn ymlaen ar gyfer y dyfodol, i gael mwy o leoedd lle mae pobl yn gallu mynd, nid teithio yn bell i fynd i'r parc?

"Bydd e'n neis cael mwy o lwybrau i bobl seiclo hefyd. Mae modd i ni ddefnyddio'r Covid nawr i feddwl yn wahanol, i wneud pethau."

Neges i wleidyddion

Er y rôl bwysig mae'n credu mae byd natur a mannau gwyrdd yn ei gael ar les ac iechyd meddwl pobl, ni all pawb symud i gefn gwlad i brofi hynny meddai Bev Lennon.

Yn hytrach, gyda mwy o bobl wedi bod adref am gyfnodau hir yn ystod y pandemig - a'r patrwm hwnnw o bosib am barhau yn y dyfodol - mae angen dod â'r gwyrddni atyn nhw.

"Dwi'n falch bod [y gwleidyddion] i gyd yn sôn am wneud mwy o bethau fel hyn, sôn am ardaloedd gwyrddach," meddai.

"Ond mae mwy o bobl eisiau gweithio o adref, felly addasu i hynny.

"Mae bod yn y parc gyda'r gwyrddi yna, yr heddwch yna, mae'n help mawr yn wahanol i bod tu mewn drwy'r amser."