Achub dyn, plentyn a chi o fwd ar draeth yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Achub o mwd, LlanelliFfynhonnell y llun, Dave Matthews

Bu'n rhaid achub dyn, plentyn a chi oedd wedi mynd yn sownd mewn mwd ar draeth yn Sir Gâr brynhawn Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i draeth oddi ar hen Ddoc y Gogledd, Llanelli ychydig cyn 15:00.

Cafodd criwiau tân eu danfon o Lanelli ac Abertawe i achub y dyn, y ferch a'r ci.

Roedd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a Gwylwyr y Glannau hefyd yn rhan o'r ymdrech.

Ffynhonnell y llun, Dave Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 15:00 brynhawn Mercher

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin a'r Canolbarth fod criwiau wedi cyrraedd y tri "a'u gosod ar fatiau mwd cyn gweithio gyda staff Gwylwyr y Glannau i'w cludo i ddiogelwch".

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi danfon criwiau o Borth Tywyn a Llansteffan, wedi i Heddlu Dyfed-Powys gysylltu â nhw am gymorth.

Roedd y mwd yn "drwchus" yn ôl llefarydd. "Cafodd yr offer achub o fwd arferol ei ddefnyddio, gan gynnwys sled, rhaffau a phwlïau."

Nid oedden nhw angen triniaeth feddygol, ac roedd y digwyddiad ar ben erbyn 17:10.

Pynciau cysylltiedig