Ateb y Galw: Y darlithydd Stel Farrar

  • Cyhoeddwyd
Stel FarrarFfynhonnell y llun, Stel Farrar

Y darlithydd Stel Farrar sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Casi Wyn yr wythnos diwethaf.

Yn wreiddiol o Nottingham, mae Stel bellach yn byw yn Ninorwig, ac yn ddarlithydd bioleg ym Mhrifysgol Bangor ac yn diwtor Cymraeg i oedolion. Hi oedd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1989 ac mae hi wedi rhedeg mynyddoedd dros Gymru. Mae hi'n fam i bump o blant.

line

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cwrdd â fy ffrind cyntaf, Kate, pan ro'n i'n ddwy oed.

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

David Kirby-Ashmore, hogyn golygus gyda llais anhygoel oedd yn y chweched dosbarth (ro'n i'n tua 13 oed). Wedi darganfod erbyn hyn fod o wedi cael gyrfa lwyddiannus fel canwr opera.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ffarwelio â fy mhlant yng Ngorsaf Bangor.

Stel gyda'i phlantFfynhonnell y llun, Stel Farrar
Disgrifiad o’r llun,

Stel gyda phedwar o'i phump o blant - Merin, Madlen, Mabon a Taliesin - mae hi'n anodd cael pawb gyda'i gilydd yr un pryd!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Anodd dewis, ond mae Somebody to Love gan Queen yn codi'r emosiynau. Dwi'n caru fersiwn newydd Dwylo Dros y Môr. Trefniant gwych gan Owain Roberts a chyfle clywed cymaint o'r sêr Cymraeg ifanc mewn un gân!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Siarad gormod.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

A United Kingdom (dim byd i neud efo'r Deyrnas Unedig). Stori wir am gwpl cryf iawn wnaeth sefyll i fyny yn erbyn hiliaeth a chreu democratiaeth ym Motswana. Actio a ffilmio hyfryd a stori emosiynol am bobl oedd Nelson Mandela yn eu hedmygu.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llanfrothen, dyna lle dechreues i ddeallt a siarad Cymraeg yn iawn wrth aros efo fy ffrind oedd yn byw yno. Roedd troi'n ddwyieithog yn drobwynt yn fy mywyd.

Stel a RobinFfynhonnell y llun, BBC/Stel Farrar
Disgrifiad o’r llun,

Stel a'i mab hynaf, Robin ar achlysur ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 1989, a heddiw

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi'n methu dychmygu bod yn rhywun arall… ond yn bendant 'swn i ddim eisiau bod yn rhy gyfoethog neu rhy enwog. 'Swn i'n hoffi cael tro bod yn fy mab hynaf, Robin. Mae o'n amlieithog, yn ddawnsiwr a chanwr medrus, yn hynod o ddeallus ac yn byw wrth y Pyrenees!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Wel, dwi'n sicr bod 'na lawer o ddigwyddiadau dwi wedi trio eu hanghofio. Ella mai'r peth dwi'n teimlo'r cywilydd mwyaf amdano ydy'r ffaith mod i ddim yn medru cofio beth oedd gair cyntaf Merin… y cyw melyn olaf allan o fy mhump o blant.

line

O archif Ateb y Galw:

line

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Fy ffrind cyntaf, Kate, i hel atgofion melys o'n plentyndod. Wrth gwrs fel amgylcheddwr brwd mae Sir David Attenborough yn berson 'swn i'n hoffi'r fraint o'i gyfarfod.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Uchelgeisiol, anturiaethus, cyfeillgar.

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Wedi i'r plant adael cartref, dwi'n unig ar adegau ond mae 'na ddau beth weddol newydd yn fy mywyd sydd yn fy nghadw i'n brysur: Fy ngyrfa newydd fel darlithydd Bioleg yn y Brifysgol ym Mangor a'r ffaith mod i wedi llwyddo nofio yn Llyn Padarn bob dydd dros y gaeaf heb siwt wlyb am 30 munud! Un diwrnod wnaeth fy ngwisg nofio rewi yn solet wrth i mi ei thynnu!

Stel yn nofioFfynhonnell y llun, Stel Farrar
Disgrifiad o’r llun,

Stel yn nofio yn Llyn Padarn ar ddiwrnod braf

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Cyntaf: olives, Prif: salad a bwyd llysieuol Groegaidd, Pwdin: cacen caws rysáit o Wlad y Basg, wnaeth Merin goginio i ni ar ei ymweliad diwethaf.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i nofio yn y llyn am y tro olaf ac wedyn mynd am dro dros fynyddoedd Eryri efo fy mhlant i gyd yn hel atgofion a bod yn falch iawn o bopeth 'dan ni wedi rhannu.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pob noson mewn gig Band Pres Llareggub. Anodd dewis un. Efallai mai yn y glaw a'r mwd, Steddfod Llanrwst oedd y ffefryn, ond mae Neuadd Ogwen, adeg Nadolig tua 2017 yn dŵad yn agos.

Band Pres LlareggubFfynhonnell y llun, Stel Farrar
Disgrifiad o’r llun,

Mae mab Stel, Merin, yn aelod o Fand Pres Llareggub, sy'n cael ei arwain gan Owain Roberts

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Owain Roberts

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw