Ateb y Galw: Y berfformwraig Cêt Haf
- Cyhoeddwyd

Y berfformwraig Cêt Haf sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Elan Elidyr yr wythnos diwethaf.
Mae Cêt yn berfformiwr llawrydd sydd wedi gweithio efo nifer o gwmnïau theatr, dawns a theledu Cymru ers dros ddeng mlynedd. Mae hi yn ei helfen wrth gyfuno dawns efo theatr ac yn aelod o Kitsch & Sync Collective.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dw i'n cofio chwilio am wenyn meirch yn 'y'n sannau y tro cynta' i mi deimlo pins and needles yn 'y'n nhraed. Tua tair o'n i dw i'n meddwl.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Dwn i'm am ffansio, ond oedd gena'i obsesiwn efo Elvis Presley.

Nid Cêt yw'r unig un sydd wedi cael 'chydig o obsesiwn gydag Elvis...
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dw i erioed 'di chwerthin gymaint â pan nes i ar ôl perfformio dawns Bedraggled efo Kitsch & Sync yn Ngŵyl Rhif 6. Oeddan ni'n dawnsio yn y pwll ffynnon fel môr forynion a hanner ffordd drwy'r ddawns daeth 'y ngwisg i ffwrdd yn un! Oedd e 'di amsugno gymaint o ddŵr nes iddo fe fynd yn rhy drwm i aros i fyny, so dyna lle o'n i yn sydyn mewn dim byd ond hold me in pants anferth (diolch byth) a wig!
Oedd e'n hileriys, a nes i jyst cario mlaen wedyn tra'n dal y wisg fyny efo un braich a 'neud y coreograffi efo'r llall fel môr forwyn llawn rhwystredigaeth dramatig!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pan o'n i'n gwylio Pocahontas diwrnod o'r blaen.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dw i'n gallu daydreamio fel dwn i'm be'!

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dw i wrth fy modd wrth y môr yn Ynys Las. Dyna le braf i fynd am dro, a dip bach mewn i'r dŵr os dwi'n teimlo digon fel pysgodyn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Oedd nos galan 2018-19 yn anhygoel. Gwisgo gymaint o sequins a glitter â phosib, a dawnsio dw-lal efo'n ffrindiau tan 9.30 y bore.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hapus, amyneddgar, penderfynol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Audrey Hepburn am bod hi'n lysh a Fred Astaire i ga'l gwers dawnsio tap epic.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Hoff lyfr(au): Harry Potters i gyd. Dyna sut nes i ddarganfod pleserau darllen am y tro cyntaf, wrth wrando ar yr audiobooks gan Stephen Fry ar yr un pryd.

Cyfres Harry Potter yw un o'r cyfresi llyfrau mwyaf llwyddiannus erioed
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dw i'n siarad Gwyddeleg efo Dad.
Beth yw dy hoff gân?
Suspicious Minds gan Elvis, wastad wedi bod yn ffefryn - ei lais! Ond obsesiwn lockdown fi yw Goodnight Moon gan Boogie Belgique.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Yn gyntaf madarch hufenog, garllegog ar dost. Wedyn tatws trwy crŵyn efo caws, baked beans a llwyth o fenyn go iawn. A pwdin reis Mam i bwdin.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ca'l parti disgo drwy dydd a noson efo'n nheulu a'm ffrindiau oll ar y traeth efo buffet brechdan a creision a hwmws.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Mozart - 'swn i'n hoffi clywed be' oedd e'n gallu clywed yn ei feddyliau wrth gyfansoddi. Wedyn troi mewn i Anna Pavlova a dawnsio i'w gyfansoddiadau.

Ag yntau wedi dechrau cyfansoddi yn bump oed, mae'n siŵr y byddai ymennydd Mozart wedi bod werth ei brofi
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Elgan Rhys