Ail ddiwrnod addawol i Forgannwg yn Sir Northampton
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi cael ail ddiwrnod addawol yn Sir Northampton, gan wella eu gobeithion am fuddugoliaeth.
Fe ddechreuodd Morgannwg yr ail ddiwrnod ar sgôr o 324-7, ac fe lwyddon nhw i ychwanegu 83 o rediadau ddydd Gwener cyn cael eu bowlio allan am gyfanswm o 407.
Llwyddodd y capten Chris Cooke, oedd ar sgôr o 107 heb fod allan dros nos, i gyrraedd 136 o rediadau cyn cael ei fowlio allan gan Nathan Buck.
Cafodd Northants ddechrau gwael i'w batiad nhw wrth gael eu cyfyngu i 76-5, cyn i Saif Zaib ac Adam Rossington sefydlogi pethau er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd cyfanswm o 251-7 erbyn diwedd y dydd.
Bydd y tîm cartref felly'n ailddechrau eu batiad ddydd Sadwrn - 156 o rediadau ar ei hôl hi gyda thair wiced yn weddill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2021