Cyngor i gau ffenestri wedi tân canolfan ailgylchu

  • Cyhoeddwyd
Tân canolfan ailgylchu Nant-y-cawsFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae trigolion lleol wedi cael cyngor i gadw ffenestri a drysau ar gau yn dilyn tân mawr ar safle canolfan ailgylchu yn Sir Gâr.

Cafodd wyth injan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu danfon i'r safle yn Nant-y-caws brynhawn Sadwrn.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Gâr bod y gwasanaeth tân wedi eu galw tua 15:30 i'r Cyfleuster Adennill Deunyddiau sy'n cael ei redeg gan Cwm Environmental Ltd.

Yn ôl y cyngor chafodd neb anaf a bydd yna ymchwiliad i ddarganfod achos y tân.

Mae criwiau tân yn parhau ar ddyletswydd ar y safle bore Sul.

Dywedodd Emma Jones ei bod yn gallu gweld "mwg du trwchus" wrth yrru o Llangynnwr, tua phedair milltir o'r ganolfan ailgylchu.

Ffynhonnell y llun, Cerys Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mwg o'r tân yn Nant-y-caws

"Mae'r gwasanaeth tân yn y fan a'r lle ac mae'r tân dan reolaeth," medd datganiad y cyngor nos Sadwrn. "Nid oes neb wedi cael ei anafu."

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau, Paul Wakelin, bod y cyngor yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth tân "a hoffwn ddiolch iddynt am bopeth maent yn ei wneud".

"Ychwanegodd: "Nid ydym yn gwybod achos y tân eto a bydd angen lansio ymchwiliad llawn."

Ffynhonnell y llun, Llangunnor News
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y mwg i'w weld o filltiroedd i ffwrdd

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mewn neges Twitter bod swyddogion yn ymweld â'r safle eto ddydd Sul.

Ychwanegodd y neges bod "cynllun rheoli dŵr tân ar waith, gyda dŵr tân wedi'i gynnwys mewn morlyn ar y safle".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales

Ar gau am y tro

Mae'r ganolfan ailgylchu ar gau am y tro, ynghyd â'r orsaf trosglwyddo gwastraff ar gyfer gwaredu gwastraff masnachol.

Mae gofyn i bobl oedd wedi trefnu apwyntiadau i fynd i'r ganolfan ailgylchu rhwng dydd Sul a dydd Mercher, 28 Ebrill, fynd i un o'r canolfannau ailgylchu lleol eraill yn Nhrostre, Wernddu neu Hendy-gwyn ar Daf.

Yn y cyfamser mae ystafell reoli'r gwasanaethau tân yn y canolbarth, gorllewin a'r de wedi derbyn cannoedd o alwadau ynghylch gwahanol achosion o dân ers bore Gwener.

Dywedodd rheolwr yr orsaf alwadau, Alan Thomas, bod hi wedi bod yn "eithriadol o brysur".

Mae criwiau tân wedi cael eu galw i sawl tân ar draws Cymru, gan gynnwys un oedd yn dal i fudlosgi yn Abertawe fore Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig