Cwpan yr Enfys y Pro14: Dreigiau 52-32 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Blaenasgellwr y Scarlets, Iestyn Rees yn sgorio yn ei ymddangosiad cyntafFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Blaenasgellwr y Scarlets, Iestyn Rees yn sgorio yn ei ymddangosiad cyntaf

Y Dreigiau sy'n dathlu ar ôl curo'r Scarlets yn ail gêm ddarbi Gymreig penwythnos agoriadol Cwpan yr Enfys y Pro14.

Sgoriodd y tîm buddugol saith cais - dau yr un gan chwaraewyr Cymru, Jonah Holmes ac Aaron Wainwright, a'r gweddill gan Jordan Williams, Rio Dyer ac Aneurin Owen.

Ychwanegodd y maswr Sam Davies 17 o bwyntiau i'r tîm cartref.

O bum cais y Scarlets, fe sgoriodd Steff Evans ddau, ac roedd y gweddill gan Iestyn Rees, Dane Blacker a Johnny McNicholl.

Mewn gêm gyffrous oedd yn teimlo fel gêm cyn dechrau'r tymor yn yr heulwen, y Scarlets oedd ar y blaen - 17-22 - wedi'r hanner cyntaf.

Ond roedd y tîm cartref yn rhy gryf iddyn nhw allu taro'n ôl, ar ôl i'r ymwelwyr ildio'r fantais yn Rodney Parade.

Pynciau cysylltiedig