Morgannwg yn colli wedi ail fatiad rhyfeddol Northants

  • Cyhoeddwyd
Ricardo VasconcelosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Ricardo Vasconcelos 185 heb fod allan i drechu Morgannwg

Colli oedd hanes Morgannwg ar ddiwrnod olaf y gêm yn erbyn Northants ym Mhencampwriaeth y Siroedd, er iddyn nhw osod targed addawol i'w gwrthwynebwyr.

Fe wnaeth cryfder y bartneriaeth rhwng Ricardo Vasconcelos (185 heb fod allan) a Rob Keogh (126) beri problemau i fowlwyr Morgannwg wrth i'r tîm cartref daro'n ôl yn eu hail fatiad.

Dechreuodd Morgannwg y diwrnod 248 o rediadau ar y blaen gyda chwe wiced yn weddill, ar ôl cyrraedd 205-4 yn yr ail fatiad.

Roedd yna ragor o chwarae campus gan y batwyr dros nos, Kiran Carlson (59) a Chris Cooke (57 heb fod allan).

O fewn llai nag awr roedd Morgannwg wedi ychwanegu 106 at y cyfanswm. Penderfynodd Cooke y byddai dod â'r batiad i ben, wedi 82 o belawdau ar 311-5, yn y gobaith o roi cyfle i'w fowlwyr gipio 10 wiced o fewn 79 pelawd.

355 felly oedd y targed i Northants a sgoriodd 364 yn eu batiad cyntaf.

Fe wnaethon nhw golli dwy wiced yn gyflym cyn sefydlogi a dechrau mynd amdani gyda phwrpas, gan haneru'r bwlch erbyn amser te.

Ychwanegodd Vasconcelos a Keogh 235 o rediadau mewn 45 o belawdau.

Gorffennodd Northants (22 o bwyntiau) ar 357-3 gan guro Morgannwg (7 pwynt) o saith wiced.

Pynciau cysylltiedig