Marwolaethau Casnewydd: Enwi dynes 57 oed fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes a gafodd ei chanfod yn farw ar yr un diwrnod â fu farw dyn arall yng Nghasnewydd.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Kerry Bradford, 57 oed, mewn tŷ yn Monnow Way, Bettws, tua 18:15 nos Sul.
Mae ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Yn gynharach ddydd Sul, am 16:40, fe syrthiodd dyn o faes parcio Kingsway yng nghanol y ddinas.
Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ond mae ditectifs yn cysylltu'r ddau ddigwyddiad.
Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio ond maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r marwolaethau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2021