George North allan o daith y Llewod i Dde Affrica
- Cyhoeddwyd
Mae asgellwr a chanolwr Cymru, George North allan o daith y Llewod i Dde Affrica oherwydd anaf difrifol i'w ben-glin.
Rhwygodd y chwaraewr 29 oed ligament yn ei ben-glin (ACL) yn chwarae i'r Gweilch yn erbyn Gleision Caerdydd yng Nghwpan yr Enfys Pro14 ddydd Sadwrn.
Cadarnhaodd North y bydd yn cael llawdriniaeth yr wythnos nesaf.
Bydd hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland, yn enwi ei garfan 36 dyn i wynebu De Affrica ar 6 Mai.
Trydarodd North: "Gall chwaraeon fod yn greulon. Rydyn ni i gyd yn gwybod y risgiau pan fyddwn ni'n mynd ar y cae.
"Yn anffodus, fe wnes i dorri fy ACL ddydd Sadwrn a bydd angen llawdriniaeth arnaf yr wythnos nesaf."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dioddefodd North y broblem yn gynnar yn yr ail hanner yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.
Roedd yn ymddangos fod ei goes wedi mynd yn sownd yn y ddaear ac roedd yn amlwg mewn poen cyn cael ei gario oddi ar y cae.
Roedd yn chwarae ar yr asgell ar gyfer ei ranbarth ar ôl cael ei ddefnyddio fel canolwr gan hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac y tymor hwn.
Chwaraeodd North ran bwysig yn llwyddiant Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, gan greu argraff yn y canol.
Roedd â siawns go dda o gael ei enwi yng ngharfan Gatland i fynd ar y daith i Dde Affrica ym mis Gorffennaf ac Awst.
Mae North wedi ennill 101 o gapiau dros Gymru, ac wedi chwarae dros y Llewod ar deithiau i Awstralia yn 2013 a Seland Newydd yn 2017.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021