Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-1 Solihull Moors
- Cyhoeddwyd
Sgoriodd Luke Young ddwywaith o'r smotyn i sicrhau buddugoliaeth bwysig i Wrecsam yn eu hymdrech i gyrraedd gemau'r ailgyfle.
Golygai'r canlyniad eu bod yn codi i'r chweched safle.
Aeth Wrecsam ar y blaen ar ôl trosedd yn erbyn Reece Hall-Johnson yn y blwch cosbi.
Llwyddodd Young gyda'i ergyd, ac roedd yna gyfle arall iddo dair munud yn ddiweddarach ar ôl trosedd yn erbyn Dior Angus.
Daeth trydedd cic o'r smotyn, ond y tro hwn i Solihull, gyda Adam Rooney yn llwyddo i ganfod cefn y rhwyd.