Ras swyddog heddlu i achub dau o fwd ar draeth

  • Cyhoeddwyd
Achub o mwd, LlanelliFfynhonnell y llun, Dave Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Y criw achub yn tynnu'r dyn a'i or-wyres o'r traeth

Mae un o'r criw wnaeth achub pensiynwr a'i or-wyres fach tair oed ar ôl i'r ddau fynd yn sownd mewn mwd ar draeth yn Llanelli wedi bod yn sôn am y ras i'w cyrraedd.

Roedd y ddau wedi mynd i drafferthion ar ôl mynd â'r ci am dro ar draeth Doc y Gogledd brynhawn Mercher.

Dywedodd Llinos Phillips, sy'n swyddog heddlu cymunedol yn y dref, wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, mai gwaith tîm arbennig oedd yr ymdrech achub rhwng yr heddlu, Gwylwyr y Glannau a'r gwasanaeth tân.

"Pan gyrhaeddes i Doc y Gogledd roedd gwraig y dyn oedd yn sownd yn y tywod yno, a doedd hi ddim yn siŵr lle oedd ei gŵr a'i or-wyres fach," meddai.

'Popeth yn slip ofnadwy'

"Ond pan edryches i mas i'r pellter, dros y bae, ro'n i yn gallu gweld rhywun ar y llawr.

"Nes i drio mynd mas atyn nhw, ond o'n ni yn gweld yn hunan fod popeth yn slip ofnadwy, felly oedd rhaid meddwl am ffordd arall i drio eu cyrraedd nhw."

Roedd y dyn 71 oed yn gorwedd ar ei gefn yn y mwd ac yn cael peth trafferth anadlu, ac roedd y plentyn bach yn eistedd ar ei gôl ac yn llefain.

Ar ôl methu cerdded dros y tywod suddo a'r mwd, fe wnaeth yr heddlu ddringo ar y creigiau er mwyn ceisio mynd yn nes atyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llinos Phillips yn un o'r tîm wnaeth achub dyn a'i or-wyres o'r mwd

"Wedyn tafles i y bachyn bywyd ato fe a gwnaeth e glymu hwnna am ei ganol", meddai Ms Phillips.

"Pan ddes i yn agos atyn nhw oedd y dyn yn gallu siarad ond yn poeni yn ofnadwy am y ferch fach oedd yn sownd, ac oedd e yn trio dal hi lan fel bod hi ddim yn y mwd.

"Roedd hi wedi cael ofan mawr. Roedd hi yn oer hefyd ac yn llefen.

"Tynno' ni y bachyn mewn a wedyn clymyd blanced foil i hwnna a thaflu hwnna mas iddyn nhw nhw i drio'u cadw yn dwym."

Ffynhonnell y llun, Dave Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Y gwasanaethau brys yn ymateb i'r alwad i helpu'r pensiynwr a'r ferch fach

Llwyddodd staff y gwasanaeth tân i gael y ferch fach ar y creigiau gyda help ysgol. Fe gafodd ei hen dad-cu ei roi ar rafft bywyd a thynnwyd y ddau i ddiogelwch.

"Buon ni yn trio cadw nhw yn siarad a bues i yn canu i'r plentyn er mwyn eu tawelu a thrio gneud yn siŵr bo' nhw ddim yn mynd i banig."

Canmol y gwasanaethau brys

Mae'r aelodau o'r gwasanaethau brys oedd yn rhan o'r ymdrech achub wedi cael eu canmol yn fawr am eu cydweithio ac am sicrhau bod pawb wedi dychwelyd i'r lan yn ddiogel.

"Ro'n nhw yn lwcus achos oedd y llanw newydd fynd mas. Os bydde y môr yn dod mewn bydde ni yn brwydro yn erbyn y cloc," meddai Ms Phillips.

"O ni mor falch i gael nhw mas yn saff. Oedd y cwbwl wedi digwydd mor gyflym… oedd e jyst wedi mynd â'r ci a'r ferch fach am dro.

"O'n nhw ddim hyd yn oed wedi mynd mas yn bell iawn. Felly ma' ishe bod yn ofalus iawn."