'Mae helpu plant y stryd yn India yn bwysig i'n teulu ni'

  • Cyhoeddwyd
Street Children UnitedFfynhonnell y llun, Street Child United
Disgrifiad o’r llun,

Bydd plant sy'n byw ar strydoedd 21 gwlad yn cystadlu yn Doha yn 2022

Yn ystod mis Mai bydd aelodau un teulu o Gaerdydd yn rhedeg, cerdded a seiclo 2299km er mwyn talu'n rhannol am daith plant sy'n byw ar strydoedd India i gemau Cwpan y Byd yn Doha.

Mae gwreiddiau Dr Arun Midha yn yr India ac er ei fod wedi ei fagu yn Abertawe ac yn byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, dywed fod yr hyn sy'n digwydd ar strydoedd yr India yn bwysig iddo fe a'i deulu.

Mae e hefyd am gyflawni'r her er cof am ei dad Dr Raj Midha - un o'r meddygon cyntaf o India i ddod i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Arun Midha
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sara Midha a'i thad Arun eu bod yn edrych ymlaen at yr her

"Mae'n anhygoel faint o blant sy'n byw ar strydoedd India. Dychmygwch stadiwm y Mileniwm sy'n dal 75,000 o bobl - wel mae 25 stadiwm lawn o blant yr India yn byw ar y stryd," medd Sara Midha.

"Mae rhain yn agored i drais, cyffuriau, problemau iechyd meddwl ac yn cael eu cosbi gan y system gyfreithiol yn gyson - does ganddyn nhw chwaith ddim mynediad i addysg na gofal iechyd."

Ers 2010 mae elusen Street Child United wedi bod yn trefnu gemau pêl-droed rhyngwladol i blant sy'n byw ar y stryd mewn amrywiol wledydd.

Ffynhonnell y llun, Arun Midha
Disgrifiad o’r llun,

Tad Arun Midha, Dr Raj Midha, oedd un o'r meddygon cyntaf i ddod o India i Gymru

Cefnder i Arun Midha a sefydlodd yr elusen wedi iddo gwrdd â bachgen ifanc ar y stryd yn ystod gemau Cwpan y Byd FIFA yn Ne Affrica yn 2010.

"Dywedodd y bachgen wrth fy nghefnder ei fod yn teimlo fod pobl yn meddwl ei fod yn berson go iawn pan yn chwarae pêl-droed ond o ddydd i ddydd doedd e ddim mwy na phlentyn y stryd," medd Arun Midha.

"Ers hynny mae gemau pêl-droed Cwpan y Byd ar gyfer plant y stryd wedi cael eu cynnal yn Rio yn 2014 a Moscow yn 2018. Mae wastad yn fwriad cynnal y gemau lle mae gemau mawr fel rhai FIFA neu rhai'r ICC (International Champions Cup) er mwyn tynnu sylw at ddioddefaint plant y stryd a bod cymaint ohonyn nhw yn ein byd.

"Fe gafodd gemau criced i blant y stryd eu cynnal yng Nghaergrawnt a Llundain yn 2019."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd teulu Arun Midha yn codi arian i dalu am daith dau dîm o India i gemau Cwpan y Byd yn Doha yn 2022

"Ry'n ni'n benodol yn ceisio cwblhau 2299km gan mai dyna hyd y daith o Mumbai i Doha - sef hyd y daith y mae'r ddau dîm o India angen ei deithio ym Mawrth 2022," ychwanegodd Sara.

"Bydd 24 tîm yn cystadlu i gyd o 21 gwlad - yn eu plith dau dîm o India, a thri thîm o ffoaduriaid o Darfur, Syria a Hwngari. Tîm merched yw un o dimau India - mae nhw'n dod o Punjab lle ganwyd fy nhad-cu ac mae'r tîm bechgyn yn dod o Chennai."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n bwysig i blant y stryd wybod eu bod yn cyfri,' medd Sara Midha o Gaerdydd

"Byddant oll yn blant y stryd ac mae hynny yn golygu plant sy'n ddibynnol ar y strydoedd i'w cynnal. Mae nifer wedi cael eu magu ar y stryd, mewn parc neu gorsaf drên. Ymhlith eraill sy'n cymryd rhan yn y gemau mae plant sy'n treulio llawer iawn o amser ar y stryd wrth iddyn gadw cwmni i ffrindiau neu aelodau o'r teulu.

"Mae 15 ohonom yn gwneud yr her - ac fe fydd pob un ohonom yn gwneud ryw fath o ymarfer corff i gwblhau'r daith o Mumbai i Doha ym mis Mai.

"Slogan yr elusen yw 'Rydw i yn rhywun' - ac ydyn ma'n nhw ac mae'n haeddu sylw a chefnogaeth," ychwanegodd Sara Midha.

Mae modd clywed y cyfweliadau yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru.

Pynciau cysylltiedig