Rhubanau lliwgar a lladron: Traddodiad dawns Calan Mai
- Cyhoeddwyd
Gŵyl sy'n nodi dechrau'r haf yw Calan Mai sy'n cael ei dathlu ar 1 Mai - 'Glamai' ar lafar i rai.
Roedd hi'n ŵyl bwysig iawn i'r Celtiaid, ac mae'n cael ei chysylltu gyda duw'r gwres a iacháu, Belenos, sy'n cael ei gysylltu yn ei dro gyda'r enw brenin, Beli Mawr, yn y Gymraeg.
Un nodwedd draddodiadol amlwg iawn o'r ŵyl oedd yr arferiad o godi'r Fedwen, neu'r Pawl Mai.
Roedd dawnsio hefyd yn rhan o'r dathliadau gan gynnwys dawnsfeydd i groesawu'r haf, fel dawns y Glamai (Dawns Flodau Nantgarw) a'r ddawns forys Cadi Ha'.
Roedd 'na draddodiad cryf mewn rhai ardaloedd yng Nghymru fod pentrefi yn codi'r Fedwen ac yn ei haddurno'n lliwgar ychydig ddyddiau cyn 1 Mai.
Roedd hyn fel arfer yn dechrau gyda blaenor y ddawns yn addurno'r Fedwen yn gyntaf drwy ei phaentio'n lliwgar cyn gosod y rhuban cyntaf.
Wedyn roedd pawb yn cymryd eu tro i addurno'r Fedwen gyda'i ruban. Roedd y drefn yma'n bwysig gan mai dyma'r drefn y byddai pawb yn ei gymryd yn ystod y ddawns i ddawnsio o amgylch y Fedwen.
Yn aml roedd hyn yn denu pobl o bentrefi cyfagos i geisio dwyn y Fedwen, felly roedd degau o bobl yn cael dyletswydd i warchod y Fedwen ddydd a nos nes Calan Mai.
Yn y 18fed ganrif roedd pobl yn cymryd hyn o ddifrif ac yn fodlon ymladd amdano, gan fod colli'r Fedwen yn gywilydd mawr ar bentref, a fyddai dim hawl i godi Fedwen Haf eto nes bod nhw'n dwyn Pawl arall.
Mae cofnod o Sain Ffagan gan yr ysgolfeistr a'r dyddiadurwr Williams Thomas yn 1768 fod 50 o bobl o Sain Nicolas wedi mynd i Sain Ffagan gyda'r bwriad o ddwyn y Fedwen Haf.
Dyma drigolion Sain Ffagan yn anfon neges at drigolion Caerdydd a Llandaf am gymorth i warchod y Fedwen cyn dathliadau Calan Mai rhag yr ymosodiad o Sain Nicolas.
Erbyn heddiw yng Nghymru, mae'r arfer o godi Pawl Mai yn eithriadol o brin, er fod Cwmni Dawns Werin Caerdydd yn arfer codi un yn Sain Ffagan yn flynyddol gyda'r ddawns Cadi Ha.
Mae dawns Glamai yn parhau i gael ei dawnsio, gyda thorch o flodau a rhubanau lliwgar, gan grwpiau dawnsio gwerin yng Nghymru.
Hefyd o ddiddordeb: