Thomas yn fuddugol yn y Tour de Romandie

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas - ei fuddugoliaeth gyntaf ers y Tour de France

Mae'r seiclwr Geraint Thomas wedi ennill y Tour de Romandie - ei fuddugoliaeth gyntaf ers iddo ennill Tour de France yn 2018.

Daeth y fuddugoliaeth ar ôl iddo ddod yn drydydd yn y cymal olaf, cymal yn erbyn y cloc.

Roedd Thomas yn y trydydd safle ar ddechrau'r dydd - 11 eiliad y tu ôl i Michael Woods.

Ond mewn perfformiad gwych, fe lwyddodd i guro Woods o bron i funud yn y cymal olaf.

Roedd hyn yn ddigon iddo sicrhau buddugoliaeth, 28 eiliad ar y blaen i Richie Porte - hefyd o dîm Ineos Grenadiers.

'Hapus iawn'

Remi Cavagna oedd yn fuddugol yn y cymal olaf.

Daeth buddugoliaeth Thomas er gwaethaf iddo gwympo oddi ar ei feic ddydd Sadwrn, 50 metr o'r linell derfyn.

"Rwy'n hapus iawn, yn enwedig ar ôl y camgymeriad ddoe. Doedd hynny ddim yn wych," meddai.

"Rwy'n teimlo'n dda ac mae'r fuddugoliaeth yn fy atgoffa 'chydig o pan enillais y Tour."

Pynciau cysylltiedig