Pedwerydd dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio Tomasz Waga
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Tomasz Waga yng Nghaerdydd ym mis Ionawr eleni wedi cyhuddo pedwerydd person mewn cysylltiad â'i lofruddiaeth.
Bydd Ardit Mehalla, 24, o Enfield yn Llundain yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun, 3 Mai.
Mae dyn 41 oed o'r Tyllgoed yng Nghaerdydd, a gafodd hefyd ei arestio ddydd Sadwrn ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi ei ryddhau ar fechniaeth yr heddlu tra bod ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal.
Mae tri dyn arall eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga ac wedi'u cadw yn y ddalfa.
Cafodd Tomasz Waga o Wlad Pwyl, ond oedd yn byw yn Essex, ei ganfod yn anymwybodol ar Ffordd Westville, Pen-y-lan, ar 28 Ionawr tua 23:30.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021