Tywydd garw'n cau ffyrdd mewn rhannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd yr A5 ei chau i'r ddau gyfeiriad ar ôl i goeden fawr gael ei chwythu drosodd yn ystod y tywydd garw a darodd Cymru ddydd Llun, Gŵyl y Banc.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn am wyntoedd cryf iawn ar draws rhan helaeth o Gymru rhwng brynhawn Llun a bore Mawrth.
Cafodd yr A5 ei chau ger Pont-y-Pandy (Pont Halfway) ger Bethesda am tua 15:00, ac roedd pryder ar un adeg y byddai'n debygol o fod felly am beth amser, oherwydd maint y goeden.
Mae'r A5 bellach wedi ailagor, a hefyd ffordd osgoi Dolgellau ar yr A470, oedd ynghau am tua awr oherwydd llifogydd.
Dywedodd cwmni Scottish Power bod nifer o ardaloedd wedi dioddef toriadau i'r cyflenwad trydan ym Môn a Gwynedd, yn cynnwys ardaloedd Biwmares, Amlwch, Caergybi, Llanfairfechan a Phwllheli.
Yn y de roedd Pont Cleddau ar yr A477 yn Sir Benfro ar gau i gerbydau uchel a beiciau modur.
Roedd cyfyngiadau mewn grym ar yr M4 dros Bont Hafren hefyd, a dywed yr awdurdodau fod posibilrwydd y bydd rhaid cau'r bont os yw'r sefyllfa'n gwaethygu yno.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daeth y rhybudd tywydd i rym am 12:00 a bydd yn para tan 09:00 fore Mawrth.
Mae'n berthnasol i dde Cymru a rhan helaeth o'r arfordir gorllewinol.
Dywed yr arbenigwyr bod potensial i'r tywydd achosi trafferthion i deithwyr, difrod i goed ac adeiladau dros do, a thonnau mawr mewn mannau arfordirol.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae gwyntoedd yn debygol o fod mor uchel â 60 i 65mya mewn rhannau arfordirol, a rhwng 40 a 50mya mewn ardaloedd mewndirol.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i 17 o siroedd Cymru:
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerfyrddin
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Gwynedd
Merthyr Tudful
Mynwy
Penfro
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Torfaen