Pedwerydd chwaraewr Abertawe wedi derbyn camdriniaeth hiliol

  • Cyhoeddwyd
Morgan WhittakerFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i un arall o chwaraewyr Clwb Pêl-droed Abertawe dderbyn negeseuon hiliol ar wefannau cymdeithasol.

Morgan Whittaker yw'r pedwerydd aelod o'r tîm i dderbyn negeseuon sarhaus y tymor hwn.

Daw'r achos ddiweddara' ar benwythnos pan oedd nifer fawr o glybiau chwaraeon ac unigolion adnabyddus o fewn y maes yn cynnal boicot o wefannau cymdeithasol yn dilyn cynnydd mewn achosion o gam-drin.

Mae cyd-chwaraewyr Whittaker, Yan Dhanda, Ben Cabango a Jamal Lowe, hefyd wedi eu cam-drin ar-lein y tymor hwn.

'Ffiaidd'

Dywedodd CPD Abertawe bod y clwb "wedi tristáu, yn flin ac wedi dychryn gan y gamdriniaeth hiliol ffiaidd" a dderbyniodd Whittaker yn dilyn y gêm yn erbyn Derby County.

Mae'r clwb wedi rhannu'r holl fanylion gyda'r heddlu.

Ychwanegodd y datganiad bod y ffaith bod yr achos ddiweddara' yn dod ar benwythnos boicot yn "dangos faint o waith sydd dal angen ei wneud".

Dywedodd y clwb y byddai'n parhau i bwyso ar wefannau cymdeithasol i weithredu i fynd i'r afael â'r broblem, ond gydag "achosion ffiaidd yn ddyddiol, mae'n amlwg bod angen gweithredu'n gryfach".

Sgoriodd Whittaker ei gôl gyntaf i'r Elyrch yn y fuddugoliaeth dros Derby ddydd Sadwrn.

Y gred yw iddo dderbyn negeseuon sarhaus ar Twitter ac Instagram.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod ymchwiliad wedi dechrau, a bod swyddogion penodedig yn gweithio gyda chlybiau pêl-droed i geisio "atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol".

Mae'r cwmnïau sy'n berchen Twitter ac Instagram wedi cael cais am sylw.