Is-bostfeistri yn hawlio buddugoliaeth

  • Cyhoeddwyd
swyddfa bost

Dywed grŵp o is-bostfeistri eu bod wedi ennill buddugoliaeth gyfreithiol bwysig yn erbyn Swyddfa'r Post.

Mae dros 550 o is-bostfeistri neu gyn is-bostfeistri yn dwyn achos yn erbyn Swyddfa'r Post a'u system Gwybodaeth Technoleg Horizon rhwng 1999 a 2000.

Maen nhw'n dweud mai camgymeriadau'r system gyfrifiadurol achosodd i symiau o arian ddiflannu.

Yn ôl y grŵp o is-bostfeistri, mae'r barnwr wedi gwneud nifer o benderfyniadau sy'n ffafrio eu hachos.

Mewn gwrandawiad ddydd Gwener roedd Mr Ustus Fraser yn penderfynu ar nifer o faterion yn ymwneud â'r berthynas rhwng yr is-bostfeistri a Swyddfa'r Post.

Dywedodd y barnwr fod y cytundeb rhwng yr is-bostfeistri â Swyddfa'r Bost yn un lle'r oedd yna berthynas - sy'n golygu na allai Swyddfa'r Post ymddwyn mewn "modd fyddai'n cael ei ystyried yn fasnachol annerbyniol gan bobl onest a synhwyrol".

Mae Swyddfa'r Post yn mynnu fod ganddyn nhw ffydd i'r eithaf yn eu systemau.

Maen nhw'n dadlau fod yn rhaid i'r is-bostfeistri brofi fod unrhyw gamgymeriadau ar eu rhan wedi deillio oherwydd nam gyda Horizon.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Noel Thomas, oedd yn cadw Swyddfa'r Post yng Ngaerwen, ei garcharu am naw mis yn 2006, ar ôl cyfaddef bwlch o £48,000 yn y cyfrifon.

Un o'r cyn-bostfeistri sy'n rhan o'r achos yw Noel Thomas.

Fe gafodd Mr Thomas, oedd yn cadw Swyddfa'r Post yng Ngaerwen, ei garcharu am naw mis yn 2006, ar ôl cyfadde' bwlch o £48,000 yn y cyfrifon.

Dywedodd wrth y BBC ei fod am i "bawb allu cael clirio eu henwau".

Ychwanegodd: "Dwi'n falch, ond tydi hon ond y step gyntaf ar yr ystol, mae'r nesaf yn mynd i fod yn fwy pwysig ac yn fwy technegol."

Fe fydd gwrandawiadau cyfreithiol pellach yn cael eu cynnal ynglŷn â materion eraill cysylltiedig â'r achos - gan gynnwys ystyriaeth a wnaeth Swyddfa'r Post dorri unrhyw reolau o ran eu cytundeb gyda'r is-bostfeistri.