Ateb y Galw: Y gantores Eve Goodman
- Cyhoeddwyd

Y gantores a'r gyfansoddwraig Eve Goodman sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Owain Roberts yr wythnos diwethaf.
Yn wreiddiol o Gaernarfon, mae Eve bellach yn byw yn Y Felinheli ar ôl cyfnodau o fyw yng Nghaerdydd a Chernyw. Mae wedi cyfansoddi nifer o ganeuon wedi eu hysbrydoli gan straeon bobl leol o Gaernarfon ar gyfer ei chasgliad o ganeuon, Straeon i Ganeuon.
Mae hi'n paratoi i ryddhau ei trydydd EP, sy' wedi ei ysbrydoli gan fenywod a'r môr, ac yn ysgrifennu ei halbym cyntaf ar hyn o bryd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dod o hyd i degan yn y domen gompost a'i alw'n 'Dodo'. Roedd rhyw blentyn arall wedi taflu hi dros ein ffens.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Y Thunderbirds. Ha!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Yr Afon Menai - dwi byth yn blino ar y culfor a'i golau anhygoel.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Fy nghefnder Nate Yaffe, dawnsiwr anhygoel.

Hoffai Eve ddiwrnod yn esgidiau dawnsio Nate Yaffe
Beth yw dy hoff gân a pham?
Eto, mae hwn yn newid trwy'r amser. Yn ddiweddar 'Anything' gan Adrianne Lenker.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pob tro dwi'n anghofio enw rhywun. Dwi'n gret hefo gwynebau ond mae gen i rhyw bloc hefo enwau am rhyw reswm…
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wythnos yn ôl pan welais i wheatear yn y caeau; nath fy nhad ddysgu fi sut i adnabod adar gwahanol a dwi'n teimlo'n agos ato yn natur.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Mary Oliver. Hoffwn gerdded gyda hi a bod yn dawel.

Y bardd Mary Oliver
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Sgrolio ar fy ffôn.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Meddylgar, creadigol, sensitif.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Hel fy mhobl at ei gilydd a nofio yn y môr.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Maen nhw'n newid trwy'r amser. Ond, yn sefyll allan mae The Overstory, llyfr gan Richard Powers. 'Nath o newid y ffordd dwi'n edrych ar goed.
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd y pandemig wedi dod i ben?
Cwtchio a giggio.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n ghostwriter!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Unrhyw amser dwi'n dawnsio heb sgidiau i gerddoriaeth da.
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
SERA (Sera Zyborska)