Clwb Ffermwyr Ifanc yn ystyried estyn oedran aelodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae clybiau ffermwyr ifanc Cymru yn ystyried newid oedran aelodaeth y mudiad i fod rhwng 13 a 30.
Ar hyn o bryd mae aelodaeth ar agor i bobl rhwng 10 a 26 oed, ond yr wythnos ddiwethaf fe benderfynodd y mudiad ar draws Cymru a Lloegr godi'r oedran gadael i 28 oed.
Ffederasiwn Cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc - neu'r NFYFC, sy'n cynrychioli clybiau yng Nghymru a Lloegr, ag eithrio ardaloedd Môn ac Eryri - bleidleisiodd ar y cynnig hwnnw.
Ond mae Eryri wedi cynnig newid oedran aelodaeth CFfI Cymru i unigolion rhwng 13 a 30 oed.
Mae 'na bosibilrwydd y gallai'r gwahaniaeth mewn oedran rhwng CFfI Cymru ac NFYFC achosi trafferthion o ran rhai cystadlaethau, yn ôl Caryl Haf o CFfI Cymru.
"Na'r unig broblem fyddwn ni'n dod ar ei draws - ac fi'n siŵr fe gallwn ni gydweithio gyda'n gilydd, fel Cymru a Lloegr a pob sir gyda'u gilydd," meddai.
"Os fydd yna gynrychiolwyr o Gymru angen mynd ymlaen i lefel cenedlaethol a bod nhw'n dod mewn i'r categori rhwng 28 a 30 oed, yna maen rhaid i ni edrych arni pwy fydd yn cynrychioli Cymru ar y lefel nesa. Ma' hynny yn dibynnu ar beth fydd penderfyniad yr aelodau ym mis Mai.
"Dyw e ddim yn effeithio yn llwyr pwy sy'n mynd i'r clwb yn wythnosol. Ma' gyda ni aelodaeth cyswllt ar hyn o bryd ar gyfer yr aelodau sydd unrhyw beth dros 26 oed.
"Ma' croeso iddyn nhw fod yn mynychu y clwb fel arweinyddion, fel ffrindiau i'r clwb er mwyn eu cefnogi nhw. Felly o ran y clybiau, dyw e ddim yn mynd i fod yn newid nhw o gwbwl."
Yr aelodau sydd â'r penderfyniad - ar 13 Mai y byddan nhw'n pleidleisio - ac mae 'na ddigon o drafod hyd a lled Cymru.
Yn nhawelwch Dyffryn Cletwr mae CFfI Pont-Siân, lle mae Alwena, Glesni ac Endaf yn ystyried yr opsiynau.
"Dwi'n credu dylen nhw gadw'r oedran 10 oed er mwyn ymuno â'r clwb achos ym mlynyddoedd 6, 7 ac 8 ro'n i'n edrych 'ml'an i fynd i'r clwb," meddai Alwena, sy'n 13 oed.
"Os bydde nhw'n cael gwared ar hwnna bydden i'n colli mas ar lot. Ond fi'n cytuno gyda'r syniad o godi'r oedran o 26 i fod yn uwch."
Dywedodd Glesni, sy'n 20: "Fi'n cytuno gyda cadw'r oedran yn 10 oed i ymuno. Fi hefyd yn credu bod angen codi'r oedran gadael.
"I bobol fel fi sydd wedi mynd bant i brifysgolion ni'n colli mas ar dair neu bedair blynedd pwysig o gystadlu a chael profiad. Wrth godi'r oedran fe allwn ni ennill mwy o brofiad fydden ni fel arall yn colli."
'Hiraeth mawr'
"Dwi'n cefnogi'r syniad o godi'r oedran gadael o 26 i oedran uwch", meddai Endaf, sy'n 27 oed
"Fel rhywun fydde, o dan amgylchiadau normal, yn ei flwyddyn ola' fel aelod dwi'n teimlo fel bod 'na cymaint yn fwy allen i roi i'r mudiad.
"Bydd gen i hiraeth mawr ar ôl y cyfleoedd ma'r ffermwyr ifanc yn cynnig, boed yn gyfleoedd i gystadlu neu'n gyfleoedd i gymdeithasu."
Y cwestiwn mawr o flaen aelodau'r mudiad nawr yw pa lwybr bydd clybiau Cymru yn ei gymryd?
Dilyn NFYFC, neu a fydd Cymru yn torri cwys newydd?
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020