Clybiau Ffermwyr Ifanc yn y tywyllwch dros gymorth Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sgets Clwb Maesywaen, Meirionnydd ar y llwyfanFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn un o brif ddigwyddiadau'r mudiad yn ystod y flwyddyn

Mae mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn dweud eu bod "dal yn y tywyllwch" o ran pa gymorth y cawn nhw gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

Yn gynharach eleni fe glywodd BBC Cymru bod dyfodol y mudiad yn "fregus ofnadwy" gyda chyfanswm y colledion posib yn dod i tua £140,000 ar draws y Ffederasiynau.

Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd un o uwch swyddogion y mudiad nad ydyn nhw wedi cael atebion i'r heriau ma nhw'n wynebu, er gwaethaf trafodaethau gyda'r llywodraeth.

Fel arfer fe fyddai calendr clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn orlawn, ond fel sawl sefydliad arall mae Covid-19 wedi rhoi stop ar nifer o ddigwyddiadau. Mae hynny yn golygu nad oes arian wedi bod yn llifo i'r coffrau chwaith.

Colledion ariannol

Dros yr haf fe ddwedodd rhai o Ffederasiynau'r mudiad yng Nghymru wrth y Post Cyntaf eu bod nhw'n wynebu colledion ariannol sylweddol - gyda chyfanswm y colledion posib o gwmpas £140,000.

Ar y pryd fe ofynnwyd am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru - ac fe ddwedodd Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths y byddai'r llywodraeth a Busnes Cymru yn trafod gyda'r ffermwyr ifanc.

Bum mis yn ddiweddarach a does 'na fawr o ddatblygiad, yn ôl Caryl Haf o CFfI Cymru.

"Gaethon ni un cyfarfod lle roedd Katie Davies, cadeiryddes Cymru, yn ogystal â finne, fel is-gadeiryddes Cymru, gyda phedwar cynrychiolydd o'r llywodraeth gyda ni ar y panel yma, lle roedden ni'n sôn beth roedd y mudiad yn ei wneud, beth oedd ein sefyllfa ariannol ni ar hyn o bryd," meddai.

"Ond yn anffodus daeth dim byd allan o'r cyfarfod. Fe gaethon ni e-bost yn ôl yn sôn na fydden nhw'n gallu ein helpu ni ar yr adeg yma. Felly ar hyn o bryd ry'n ni dal yn y tywyllwch o'r llythyron ry'n ni wedi eu derbyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Caryl Haf, is-gadeirydd y mudiad, eu bod yn dal yn y niwl am unrhyw gymorth ariannol

Yn ystod y pandemig, mae'r clybiau lleol wedi bod yn ceisio parhau i gynnal digwyddiadau, ond yn ôl Cennydd Jones, Darpar Ffermwr Ifanc y Flwyddyn yng Ngheredigion ac aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian, mae'n anodd iawn sicrhau cyllid wrth gynnal digwyddiadau rhithiol.

"Prif incwm ni, ffynhonnell ni o incwm, yw cynnal digwyddiadau yn y gymuned," meddai.

"Ma' nifer o glybiau ar draws y wlad, ma' nhw'n chwarae rhan hanfodol yn cynnal diwylliant mewn ardaloedd gwledig lle nad oes llawer o bethau mla'n yn y lle cyntaf.

"Ma' nhw'n cynnal nifer o ddigwyddiadau mewn neuaddau pentref, ma' nhw'n mynd o gwmpas yn canu carolau ac yn y blaen, ac yn sgil hyn dyna sut ma nhw'n dod ag incwm mewn i'w clybiau.

"Felly mae'r golled yn yr incwm 'na wedi bod yn ergyd enfawr, yn sicr i ni ym Mhontsian, ond hefyd i nifer o glybiau ar draws y wlad.

"Ni wedi bod yn arloesol, ni wedi bod yn ceisio cynnal digwyddiadau ar-lein, digwyddiadau rhithiol, ond mae'n anodd i ni gael incwm o'r digwyddiadau hynny."

Fe ddwedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw ar drafodaethau penodol, ond fe fyddan nhw'n cadw mewn cyswllt gyda'r CFfI er mwyn eu cynghori ar yr opsiynau cyllido sydd ar gael.

Pynciau cysylltiedig