Ail-ddarganfod cwrs golff 'cudd' yn ystod y cyfnod clo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Raeadr Gwy ym Mhowys wedi clirio cwrs golff, a gafodd ei ddylunio gan arbenigwr yn y maes, sydd wedi bod ynghau ers degawdau.
Cafodd y cwrs naw twll yn y canolbarth ei ddylunio yn y 1920au gan Dr Alister MacKenzie, sy'n cael ei adnabod yn y byd golff fel 'y Pensaer Cyrsiau'.
Roedd MacKenzie yn gyfrifol am rai o gyrsiau mwyaf eiconig y byd gan gynnwys Augusta a Pebble Beach yn yr UDA.
Doedd ei gwrs yn Rhaeadr ddim wedi cael ei ddefnyddio ers degawdau nes i Chris Powell ddechrau clirio'r rhedyn a oedd wedi'i orchuddio yn ystod y cyfnod clo.
"Ro'n i'n gwybod amdano erioed, ro'n i'n arfer dod lan yma pan yn blentyn ar fy merlen ac ro'n i wedi gweld cwpl o'r hen lawntiau ond ddim yn gwybod ble roedd llawer o'r lleill", meddai.
Cryman, clwb a phêl
"Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'n debyg fy mod i wedi treulio tua 1,000 o oriau lan yma, naill ai'n chwarae neu'n torri neu'n gwneud rhywbeth.
"Fe ddes i fyny gyda'r nos, bron bob nos yn yr haf. Roedd hi'n gyfnod clo felly doedd dim byd arall i wneud.
"Fel rheol roedd gen i un clwb, un bêl a chryman yn y bag, er mwyn torri'r rhedyn i lawr pan fyddwn i'n colli fy mhêl!"
Ac mae Chris wedi gwneud gwahaniaeth - gallwch chi weld y tîs a'r lawntiau nawr a chael syniad o gynllun y naw twll.
Byddai pytio ar y lawntiau yn anodd iawn, os nad yn amhosib, ond mae Chris wedi dod o hyd i rai o'r tyllau gwreiddiol gyda'r cwpanau metel yn dal i fod y tu mewn.
Ond ni wnaeth yr holl glirio gyda'r cryman, aeth a'i beiriant torri gwair i fyny'r mynydd.
"Doedd y gwair byth yn hir iawn am ei fod yn cael ei bori gan ddefaid, felly mewn gwirionedd yr unig broblem oedd yr hen rhedyn marw ar rai adegau'r flwyddyn.
"Yn yr haf mae'r rhedyn yn tyfu i fyny yn uchel iawn a doedd dim modd chwarae yma , gall fod mor uchel a dy frest mewn mannau.
"D'wedodd un o fy ffrindiau fy mod wedi colli fy meddwl i fyny yma. Ond mi wnes i fwynhau yn fawr."
Yn 1991 enillodd y Cymro Ian Woosnam y Meistri yng Nghlwb Golff Cenedlaethol Augusta, cwrs enwog gafodd ei ddylunio gan Dr Alister MacKenzie, y pensaer golff sy'n gyfrifol am rai o'r cyrsiau enwocaf yn y byd.
Dyluniodd Augusta yn 1931, ond yn ystod y ddegawd cyn hynny lluniodd MacKenzie gyrsiau mawr a bach ledled y DU gan gynnwys y cwrs yn Rhaeadr yn 1925.
Ei enw ar y cynlluniau
Mae John Llewellyn yn rhedeg gwefan Golf's Missing Links sy'n rhestru mwy na 2,000 o gyrsiau golff a gollwyd, naill ai i natur neu i brosiectau adeiladu.
Un o'r cyrsiau a restrir yw cwrs MacKenzie yn Rhaeadr.
"Roedd e [MacKenzie] yn teithio ledled Prydain bryd hynny", meddai John Llewellyn.
"Roedd yn Swydd Efrog a gwnaeth gwpl o gyrsiau yng Nghymru - ym Mae Colwyn a Rhaeadr.
"Mae enw Mackenzie ar y cynlluniau ry'n ni wedi'u gweld, gyda'i ddisgrifiad o'r cwrs a llwybr y cwrs a hyd y tyllau. Felly mae'n eithaf amlwg ei fod yno bryd hynny.
"Mae'r olygfa o'r cwrs yn ysblennydd gyda Chwm Elan a thref Rhaeadr yn y cefndir. Ond mae ychydig yn bell o'r dref a fyddai wedi ei gwneud hi'n anodd cyrraedd."
Ar ôl clirio'r cwrs mae Chris Powell yn bwriadu cynnal rownd elusennol o Texas Scramble yno i godi arian i'r Gwasanaeth Iechyd.
Enw'r gystadleuaeth - Cwpan Rhaeadr, wrth gwrs.
Bydd croeso i dimau o bedwar i gymryd rhan a cheisio concro cwrs Alister MacKenzie, ond peidiwch a disgwyl lawntiau perffaith fel rhai Augusta.
Dywedodd Chris Powell: "Rwy'n credu bod y cwrs hwn yn debyg i sut mae golff i fod.
"Roedd Peter Allis yn aml yn dweud yn ei sylwebaeth nad oedd Augusta yn cynrychioli y ddelwedd o golff yn y dyddiau cynnar, ac mae'n debyg bod y naw twll yn Rhaeadr yn agosach ati."