Gyrrwr tacsi'n marw mewn gwrthdrawiad ger Dolgellau

  • Cyhoeddwyd
Ffordd A494 ar gau
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 yn ardal Bontnewydd rhwng Dolgellau a Rhydymain

Mae dyn wedi marw a dau berson wedi eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd ger Dolgellau.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r A494 rhwng y dref a Rhydymain am 08:20 fore Iau yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn cynnwys dau gerbyd - tacsi Skoda glas a fan Peugeot gwyn.

Cafodd ambiwlans awyr ei ddanfon i'r ardal fel rhan o ymateb y gwasanaethau brys ond fe gadarnhawyd bod gyrrwr y tacsi wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywed yr heddlu bod dau berson - dynes oedd yn teithio yn y tacsi a dyn oedd yn gyrru'r fan - wedi cael eu cludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke, a bod y ddau ag anafiadau all beryglu bywyd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffordd ei chau yn Llanuwchllyn

Gan gydymdeimlo â theulu'r dyn sydd wedi marw, dywedodd y Sarjant Jason Diamond o Uned Plismona Ffyrdd y llu bod hi'n "bwysig iawn i gadarnhau beth arweiniodd at y digwyddiad trasig yma".

Ychwanegodd: "Rydym yn apelio am dystion, ac yn arbennig o awyddus i siarad gyda gyrrwr car estate BMW glas tywyll, oedd yn teithio ar yr A494 i gyfeiriad Y Bala yn fuan cyn y gwrthdrawiad."

Mae'r llu hefyd yn awyddus i dderbyn lluniau dash cam all fod yn gymorth i'r ymchwiliad.

Mae'r ffordd yn dal ar gau ac yn debygol o aros ar gau "am beth amser", gyda threfniadau i ddargyfeirio traffig.

Pynciau cysylltiedig