Alun Wyn Jones i arwain y Llewod yn Ne Affrica

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Wyn Jones wedi chwarae yn naw gêm brawf ddiwethaf y Llewod dros dair taith

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi'r 37 chwaraewr fydd yn cynrychioli'r Llewod ar eu taith i Dde Affrica yr haf hwn, gyda'r Cymro Alun Wyn Jones yn gapten.

Mae 10 Cymro yn y garfan, 11 o Loegr, wyth Gwyddel ac wyth o'r Alban.

Y naw Cymro arall ydy Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies, Taulupe Faletau, Wyn Jones, Ken Owens, Louis Rees-Zammit, Justin Tipuric a Liam Williams.

Mae Jones, 35, wedi ennill 157 o gapiau dros Gymru a'r Llewod - y mwyaf o gapiau rhyngwladol gan unrhyw chwaraewr erioed.

Dyma fydd y pedwerydd tro iddo deithio gyda'r garfan, ac mae wedi ymddangos yn y naw gêm brawf ddiwethaf rhwng 2009 a 2017.

Cymry'r Llewod
Disgrifiad o’r llun,

Mae 10 Cymro yn rhan o'r garfan o 37 fydd yn gwneud yn daith i Dde Affrica

Cafodd y garfan lawn ei chyhoeddi gan gyn-brop Lloegr a'r Llewod, Jason Leonard amser cinio ddydd Iau.

Ond mae modd i chwaraewyr eraill ymuno â'r garfan yn hwyrach os ydy aelodau o'r garfan yn cael eu hafanu neu eu gwahardd.

Mae Sam Simmonds, sydd heb ennill cap i Loegr ers 2018, yn un enw annisgwyl yn y garfan, tra bod nifer o enwau cyfarwydd yn colli allan.

Ymysg y rheiny mae'r Gwyddel Johnny Sexton, Jonny May, Kyle Sinckler, Henry Slade a Billy Vunipola o Loegr a'r Cymry Jonathan Davies, Leigh Halfpenny, Josh Navidi a Tomos Williams.

Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Warren Gatland yn arwain y Llewod am y trydydd tro eleni

Bydd y Llewod yn cynnal gwersyll hyfforddi ar ynys Jersey ac yn herio Japan ym Murrayfield cyn iddyn nhw deithio i Dde Affrica ddiwedd Mehefin.

Fe fydd y garfan yna'n chwarae pum gêm yn ystod eu paratoadau yn Ne Affrica, cyn i'r tair gêm yn erbyn pencampwyr y byd ddechrau ar 24 Gorffennaf.

Does dim cadarnhad eto a fydd cefnogwyr yn cael mynychu'r gemau.

Presentational grey line

Gemau'r Llewod

  • 26 Mehefin - Japan (Murrayfield)

  • 3 Gorffennaf - Stormers

  • 7 Gorffennaf - Tîm De Affrica trwy wahoddiad

  • 10 Gorffennaf - Sharks

  • 14 Gorffennaf - De Affrica A

  • 17 Gorffennaf - Bulls

  • 24 Gorffennaf - De Affrica

  • 31 Gorffennaf - De Affrica

  • 7 Awst - De Affrica

Presentational grey line

Y garfan yn llawn

Blaenwyr: Tadhg Beirne (Iwerddon), Jack Conan (Iwerddon), Luke Cowan-Dickie (Lloegr), Tom Curry (Lloegr), Zander Fagerson (Yr Alban), Taulupe Faletau (Cymru), Tadhg Furlong (Iwerddon), Jamie George (Lloegr), Iain Henderson (Iwerddon), Jonny Hill (Lloegr), Maro Itoje (Lloegr), Alun Wyn Jones (c)(Cymru), Wyn Jones (Cymru), Courtney Lawes (Lloegr), Ken Owens (Cymru), Andrew Porter (Iwerddon), Sam Simmonds (Lloegr), Rory Sutherland (Yr Alban), Justin Tipuric (Cymru), Mako Vunipola (Lloegr), Hamish Watson (Yr Alban).

Olwyr: Josh Adams (Cymru) Bundee Aki (Iwerddon), Dan Biggar (Cymru), Elliot Daly (Lloegr), Gareth Davies (Cymru), Owen Farrell (Lloegr), Chris Harris (Yr Alban), Robbie Henshaw (Iwerddon), Stuart Hogg (Yr Alban), Conor Murray (Iwerddon), Ali Price (Yr Alban), Louis Rees-Zammit (Cymru), Finn Russell (Yr Alban), Duhan van der Merwe (Yr Alban), Anthony Watson (Lloegr) Liam Williams (Cymru).

Pynciau cysylltiedig