Cyhoeddi enw gyrrwr tacsi a fu farw ger Dolgellau

  • Cyhoeddwyd
Phil Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Phil 'Chips' Roberts ei fod yn "Dad, Mab a Taid hoffus"

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw gyrrwr tacsi a fu farw ar ffordd yr A494 rhwng Rhydymain a Dolgellau fore Iau.

Roedd Phillip James Roberts, 62, yn dod o ardal Cricieth.

Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd - tacsi Skoda glas a fan Peugeot gwyn - tua 08:20.

Cafodd teithiwr benywaidd yn y tacsi a gyrrwr gwrywaidd y fan eu cludo i'r ysbyty yn Stoke.

Mae'r ddau wedi cael anafiadau sylweddol ond dywedir eu bod mewn cyflwr sefydlog.

'Synnwyr digrifwch gwych'

Wrth roi teyrnged i Mr Roberts, dywedodd ei deulu: "Roedd Phil 'Chips' Roberts yn Dad, Mab a Taid hoffus, ac yn gymeriad hoffus yn yr ardal, a gafodd ei eni a'i fagu yng Nghricieth, ond a oedd yn boblogaidd hefyd trwy fod yn yrrwr tacsi lleol am nifer o flynyddoedd.

"Roedd ganddo lawer o ffrindiau, roedd ganddo amser bob tro i gael sgwrs, ac roedd ganddo synnwyr digrifwch gwych.

"Bydd colled fawr ar ei ôl. Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth trwy'r amser anodd hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 yn ardal Bontnewydd rhwng Dolgellau a Rhydymain

Dywedodd y Sarjant Jason Diamond o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Mae'r ymchwiliad i ddarganfod beth ddigwyddodd fore ddoe yn parhau a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein helpu i roi'r amgylchiadau at ei gilydd i gysylltu â ni ar unwaith.

"Nid ydym bellach yn apelio ar yrrwr gyrrwr BMW lliw glas i gysylltu â ni yn dilyn apêl ddoe, a hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu."